Pafiliwn RFC Bryncethin yn cael ei adnewyddu yn dilyn Trosglwyddiad Asedau Cymunedol (CAT) llwyddiannus
Dydd Iau 17 Mawrth 2022
Ymwelodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd y Cyngor, a'r Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau, â Chanolfan Gymunedol Bryncethin yn ddiweddar. Cafodd yr adeilad ei ailagor ym mis Gorffennaf 2019 yn dilyn ailddatblygiad yn y pafiliwn chwaraeon oedd werth oddeutu £550,000, ac ar ôl i'r adeilad a'r caeau chwarae ym Mryncethin RFC fod yn destun Trosglwyddo Ased Cymunedol. Cawsant hefyd gwmni’r Cynghorydd lleol, Gary Thomas, yn ystod eu hymweliad.