Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Aelodau'r Cabinet yn trafod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

Cyfarfu Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i drafod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig arfaethedig yr awdurdod ar gyfer 2023-24 i 2026-27.

Yn dilyn cyfarfod y Cabinet, cyn bo hir bydd y cynghorwyr trawsbleidiol yn craffu ymhellach ar y strategaeth cyn iddi gael ei chyflwyno i'r cyngor llawn ar 1 Mawrth 2023.

Wedi'u hamlinellu yn y ddogfen mae rhagolygon ariannol 2023-2027 a chyllideb refeniw ddrafft, fanwl ar gyfer 2023-24, sy'n pennu blaenoriaethau gwario'r cyngor, y prif amcanion buddsoddi a meysydd cyllideb wedi'u clustnodi ar gyfer arbedion hanfodol.

Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddrafft eleni wedi'i harwain yn sylweddol gan yr amcanion arfaethedig yng Nghynllun Corfforaethol newydd yr awdurdod, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ochr yn ochr â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-2027 fis Mawrth.

Bydd y Cynllun Corfforaethol yn cyd-fynd yn llwyr â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, yn cynnwys cysylltiadau eglur rhwng adnoddau ac amcanion llesiant. Er hynny, yn sgil ei natur, mae'r cyngor yn sefydliad mawr a chymhleth, yn cynnig sawl gwasanaeth i gymunedau a phobl leol, ei brif amcan yw parhau i weithio fel un sefydliad, gan osgoi dyblygu a thrin data dwywaith drwy rannu systemau a phrosesau. Mae ‘Un cyngor yn gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau' wrth wraidd gweledigaeth y Cyngor.

Fel nifer o sefydliadau, mae'r cyngor wedi dioddef o bwysau sylweddol o ran costau a cholled incwm o ganlyniad i bandemig Covid-19, ynghyd â phwysau o ran chwyddiant o ganlyniad i wrthdaro yn Wcráin, yn ogystal ag effaith yr argyfwng costau byw ar dâl a phrisiau, yn enwedig prisiau tanwydd ac ynni.

Mae'r sefyllfa economaidd gythryblus yn ystod y flwyddyn ariannol wedi bod yn her heb ei thebyg, gyda chwyddiant yn codi ledled y byd, ac mae trefnu’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yn fwy ansicr a heriol na'r arfer.

Mae llai o gyfleoedd i dorri gwasanaethau mewn cyfnod lle mae angen mwy o gymorth ar aelodau hŷn a mwyaf bregus ein cymdeithas, gyda chynnydd sylweddol yn y galw am nifer o wasanaethau.

Mae awdurdodau lleol yn cael y rhan fwyaf o'u cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cynnal Refeniw a chyfran o Ardrethi Annomestig. Mae'n ategu hyn drwy gasglu'r dreth gyngor, ffioedd a thaliadau a grantiau eraill.

Ar hyn o bryd, mae'r dreth gyngor yn ariannu oddeutu 27 y cant o'r gyllideb, sy'n golygu am bob £1 sy'n cael ei wario ar wasanaethau a ddarperir gan y cyngor, dim ond oddeutu 27 ceiniog sydd wedi'i ariannu gan y dreth gyngor.

Yn seiliedig ar gyllideb net arfaethedig o bron i £320 miliwn, bydd y strategaeth yn cynnwys cynnig cychwynnol i gynyddu'r dreth gyngor i chwech y cant ar gyfer 2023-24.

Cynnig drafft yw'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar hyn o bryd. Craffir ar hon ymhellach mewn nifer o gyfarfodydd pwyllgorau yn ddiweddarach y mis hwn, cyn iddi gael ei chyflwyno i'r cyngor llawn ar 1 Mawrth. Mae craffu ar y gyllideb yn rhan o'r broses o gynllunio'r gyllideb gyffredinol, ynghyd ag ymgynghoriad cyhoeddus sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Mae Cabinet y cyngor wedi ymrwymo i gadw lefelau'r dreth gyngor mor isel ag sy'n ddichonadwy, gan gydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar aelwydydd. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig cydnabod bod chwyddiant ar lefel o dros 10 y cant ac mae'r cyngor yn wynebu pwysau heb eu tebyg gyda rhai gwasanaethau, yn ogystal â chynnydd costau enfawr ar gyfer amwynderau megis defnydd ynni.

Rydym hefyd wedi ystyried yn y cynnig hwn bod aelodau mwyaf bregus ein cymunedau yn gymwys am gefnogaeth ychwanegol, megis y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a disgowntiau ar eu biliau ynni. Rydym yn dal i weithio drwy rai o'r pwysau o ran y costau ychwanegol yr ydym yn eu hwynebu ac os yw'n bosibl, byddwn yn ceisio lleihau lefel arfaethedig y dreth gyngor ymhellach, ond mae'r cynigion cyfredol yn gyson gyda'r cynnydd cyfartalog a gynigir ledled Cymru ar hyn o bryd.

Cynghorydd Hywel Williams, aelod cabinet dros adnoddau

Er mwyn lleisio'ch barn am gyllideb 2023-24 y cyngor, gallwch wneud hynny drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar wefan y cyngor. Bydd yr arolwg yn cau hanner nos ar 22 Ionawr 2023.

Chwilio A i Y