Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r Datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i: www.bridgend.gov.uk

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau'r cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo'r dudalen hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan?

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes gan ffrydiau fideo byw sgrindeitlau
  • nid yw rhai negeseuon gwall ar ‘Fy Nghyfrif’ (cymhwysiad Trydydd Parti) yn weladwy gan ddefnyddwyr darllenwyr sgrin.
  • nid yw’r ffocws yn glir ar y botymau Cyflwyno adborth ar hyd y gwaelod
  • nid yw’r ffocws yn glir ar y blwch Angen Cymorth a’r botwm Yn ôl i’r Brig

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os hoffech y wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, anfonwch neges i:

 

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 15 diwrnod.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, ffoniwch ni neu anfon e-bost i gael cyfarwyddiadau:

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau sydd ddim wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn cwrdd â’n disgwyliadau hygyrchedd, cysylltwch:

 

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl sy’n F/fyddar, pobl â nam ar eu clyw neu bobl â nam lleferydd.

Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

I gael gwybod sut i gysylltu â ni.

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws Cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod:

 

Cynnwys Anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol:

 

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

 

Baich anghymesur

  • Maen Prawf Llwyddiant 4.1.3 Negeseuon Statws - Fy Nghyfrif (cymhwysiad trydydd parti). Wrth greu gwall ar y dudalen mewngofnodi, ymddangosodd sawl gwall o dan y meysydd ffurf. Ni roddwyd rôl rhybudd i'r negeseuon gwall hyn, gan achosi i ddefnyddwyr darllenydd sgrin fod yn anymwybodol o ba faes ffurf wnaeth greu’r gwall.

    Mae system a ffurflenni ‘Fy Nghyfrif’ yn cael eu hadeiladu a’u lletya drwy feddalwedd trydydd parti a'u gwneud i edrych fel ein gwefan ni.

Rydym wedi asesu’r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a chyrchu gwybodaeth, a chydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd hi’n adeg adnewyddu’r contract cyflenwi sy’n debygol o fod yn Mawrth 2023.

 

Cynnwys sydd ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

 

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i'n gwasanaethau, a ffurflenni wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word. Rydym wrthi’n uwchraddio ffurflenni Word i ffurflenni ar-lein o fewn ein gwasanaeth ‘Fy Nghyfrif’.

Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi ffurflenni hygyrch ar-lein yn eu lle erbyn Mawrth 2023.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio Cynlluniau Corfforaethol sy’n ddyddiedig cyn 2018.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn cwrdd â’r safonau hygyrchedd.

 

Fideos Byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu sgrindeitlau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi'u heithrio rhag cwrdd â’r rheoliadau hygyrchedd.

 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd?

Rydym yn bwriadu adnabod a thrwsio problemau ar y cyfle cyntaf posibl.  Mae amserlenni ar gyfer trwsio pob mater wedi’u rhestru yn yr adran berthnasol uchod.

Byddwn yn cysylltu â’n cyflenwyr os na fyddwn yn gallu datrys unrhyw broblemau ein hunain.

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Ebrill 2022. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 3 Mai 2022.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 6 Gorffennaf 2020. Cafodd y prawf ei wneud gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC)

Chwilio A i Y