Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cabinet yn trafod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wrth i’r heriau ariannol cenedlaethol barhau

Yr wythnos hon, cyfarfu Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i drafod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig arfaethedig yr awdurdod ar gyfer 2024-25 hyd at 2027-28.

Bydd pwyllgorau trosolwg a chraffu trawsbleidiol yn craffu ymhellach ar y strategaeth cyn iddi gael ei chyflwyno gerbron y cyngor llawn ar 28 Chwefror 2024.

Fel pob awdurdod lleol arall yng Nghymru a’r DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu heriau ariannol sylweddol gan nad yw’r cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau wedi cynyddu yn unol â’r costau.

Mae’r pwysau mwyaf a wynebwn mewn perthynas â’n cyllideb yn cynnwys y canlynol:

  • Mae’r galw am gymorth gofal cymdeithasol i oedolion (atgyfeiriadau ac ymyriadau) wedi cynyddu o 4,351 yn 2022 i 5,137 yn 2023 – cynnydd o 18 y cant.
  • Mae nifer y bobl ddigartref a gaiff gymorth mewn llety dros dro hefyd wedi cynyddu’n sylweddol ers 2019, pan oedd ein gwariant yn £135,000. Rhagwelir y bydd ein gwariant ar gyfer 2023/2024 yn £4.7m.
  • Mae nifer y teuluoedd sydd angen cymorth gan wasanaethau cymdeithasol plant wedi cynyddu o 7,254 yn 2022 i 11,355 yn 2023 – cynnydd o 56.53 y cant.
  • Mae costau Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol wedi cynyddu o £6,021m yn 2020/2021 i wariant rhagamcanol o £9.782m yn 2023/2024.

Yn y ddogfen, ceir braslun o ragolwg ariannol ar gyfer 2024-2028 a manylion am gyllideb refeniw ddrafft ar gyfer 2024-25, lle nodir blaenoriaethau gwariant y cyngor, amcanion buddsoddi hollbwysig a meysydd cyllideb sydd wedi’u clustnodi ar gyfer arbedion angenrheidiol.

Mae awdurdodau lleol yn cael y rhan fwyaf o’u cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng y Grant Cynnal Refeniw ynghyd â chyfran o Ardrethi Annomestig. Mae awdurdodau lleol yn ategu’r arian hwn trwy gasglu’r dreth gyngor, a hefyd gyda grantiau a ffioedd a thaliadau.

Ar hyn o bryd, mae’r dreth gyngor yn ariannu oddeutu 27 y cant o’r gyllideb; felly, am bob £1 a warir ar wasanaethau a ddarperir gan y cyngor, dim ond oddeutu 27 ceiniog a ariennir gan y dreth gyngor.

Ar sail y gyllideb net arfaethedig, sef bron i £360 miliwn, bydd y strategaeth yn cynnwys cynnig cychwynnol y dylai’r dreth gyngor gynyddu i 9.5 y cant ar gyfer 2024-25.

Mae’r Cynllun Corfforaethol wedi helpu i lunio’r strategaeth trwy ganolbwyntio ar amcanion allweddol, megis pa mor bwysig yw gweithio fel ‘un cyngor’ i ddarparu gwasanaethau i gymunedau lleol ledled y fwrdeistref sirol.

Ni allwn ddianc rhag yr heriau ariannol cenedlaethol sy’n dod i ran pob awdurdod lleol, a chan ein bod eisoes wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn trigolion lleol rhag y toriadau gwaethaf dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf, erbyn hyn rydym wedi cyrraedd sefyllfa pan na allwn wneud hynny mwyach.

Er y byddwn yn sicrhau y defnyddir ein harian yn effeithiol ac yn effeithlon, dylem baratoi ar gyfer gwneud rhai penderfyniadau anodd ac anochel cyn cytuno ar gyllideb derfynol y cyngor ar gyfer 2024-25.

Hefyd, mae’n bwysig inni ystyried y darlun cenedlaethol sy’n berthnasol i rai gwasanaethau trwy ystyried lefel y grantiau sydd ar gael gan nifer o sefydliadau, yn cynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Gan y bydd nifer o grantiau’n dod i ben yn ystod y misoedd nesaf, mae hi’n bwysig inni ystyried effaith hyn wrth baratoi ein cynigion drafft.

Medd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Yn ôl y Cynghorydd Hywel Williams, yr aelod cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Materion Cyfreithiol: “Cynnig drafft yn unig yw’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar hyn o bryd. Bydd nifer o gyfarfodydd pwyllgorau’n craffu arni ymhellach cyn iddi gael ei chyflwyno gerbron y cyngor llawn ar 28 Chwefror.

“Mae craffu ar y gyllideb yn rhan o’r broses gyffredinol sydd ynghlwm wrth gynllunio cyllidebau, ochr yn ochr â’r ymgynghoriad cyhoeddus sydd ar waith ar hyn o bryd.

“Mae’r cyngor wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y dreth gyngor mor isel ag y bo’n ymarferol, ond mae’n bwysig cydnabod bod chwyddiant yn dal i fod yn uchel a bod costau amwynderau fel ynni yn dal i fod yn eithriadol o uchel.”

I leisio eich barn ynglŷn â chyllideb y cyngor ar gyfer 2024-25 ac i gael rhagor o wybodaeth am y modd y gwariwn ein cyllideb, cymerwch gipolwg ar wefan y cyngor. Bydd yr arolwg yn dod i ben ddydd Sul 4 Chwefror 2024.

Llenwch yr arolwg ar-lein; neu i ofyn am gopi caled, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad consultation@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643664.

Hefyd, gallwch ysgrifennu at y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y