Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet i ystyried a fydd eu cysylltiad â phrosiect Hybont yn parhau

Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfarfod yr wythnos nesaf (Dydd Mawrth 19 Medi 2023) i drafod a oes modd i’r awdurdod fedru parhau i gefnogi prosiect tanwydd gwyrdd Hybont yn ariannol yn y dyfodol.

Wrth ragweld y bydd prinder ariannol gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer 2024-25 a’r pwysau sylweddol a fydd yn wynebu’r gyllideb, gofynnir i’r aelodau ystyried a yw’r cyngor yn mynd i allu fforddio i ymrwymo costau refeniw ariannol a chyfalaf sydd tua £6.5m tuag at gyllideb prosiect Hybont, ynteu y bydd y pwysau ariannol hyn y gorfodi’r awdurdod i dynnu’i ymrwymiad yn ôl.

Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, roedd yr arbenigwyr mewn ynni adnewyddadwy Marubeni Europower, o Japan, eisoes wedi dewis Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel  lleoliad dewisol yn y DU ar gyfer eu prosiect o arddangos hydrogen gwyrdd, sydd â’r gallu i gynhyrchu tanwydd glân ar gyfer cerbydau fflyd, sy’n amrywio o raeanwyr cynghorau i lorïau ailgylchu a lorïau casglu ysbwriel.

Mae Stad Ddiwydiannol Brynmenyn wedi’i henwi fel safle posibl ar gyfer y cyfleuster newydd, ac mae Marubeni wedi cyflwyno cais cynllunio sydd wrthi’n cael ei drafod ar hyn o bryd.

Os bydd aelodau’r Cabinet yn dewis tynnu’n ôl, bydd trafodaethau’n parhau i gymryd lle rhwng Llywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Marubeni, er mwyn ceisio canfod ffordd arall o gyflawni’r prosiect. Bydd y cais cynllunio hefyd yn parhau i gael ei brosesu yn unol â rheoliadau a rheolau cynllunio arferol. 

Bydd y Cabinet yn cyfarfod am 2.30yp ar Ddydd Mawrth 19 Medi i ystyried yr adroddiad. Mae’r manylion llawn ar dudalen agenda cyfarfodydd y Cabinet ar wefan y Cyngor, www.bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y