Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cefnogi cynigion y gyllideb ar gyfer 2024-25

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cwrdd yn gynharach heddiw (dydd Mawrth 20 Chwefror) ac wedi cefnogi cynigion cyllideb yr awdurdod ar gyfer 2024-25 fel rhan o’i Strategaeth Ariannol Tymor Canolig barhaus.

Yn dilyn dadansoddiad gofalus o adborth o ymgynghoriad cyhoeddus a phroses graffu, cyfanswm y gyllideb gros ar gyfer 2024-25 yw £520m. Ar ôl ystyried pwysau cyllidebol o £30.4m, a gostyngiadau angenrheidiol o ychydig dros £13m, mae’r gyllideb a gefnogwyd ar gyfer darparu dros 800 o wahanol wasanaethau yn 2024-25 yn £359.7m.

Mae gostyngiad arfaethedig mewn cyllid i ysgolion wedi lleihau o gynnig o 5 y cant i 3 y cant, ac mae’r Cabinet wedi cytuno y bydd ysgolion yn derbyn arian ychwanegol i helpu i ymateb i bwysau o ran cyflogau a phrisiau yn ystod 2024-25 a allai gyrraedd cymaint â £5m.

Mae cynigion ar gyfer cau gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr wedi eu tynnu yn ôl, ac mae toriadau arfaethedig mewn cyllid ar gyfer glanhau strydoedd, canolfannau ailgylchu, canolfannau cymunedol, ardaloedd chwarae, cymorth i blant gydag anghenion ychwanegol, a chymorth i helpu’r trydydd sector i ymdrin â rhyddhau o’r ysbyty oll wedi cael eu hosgoi.

Gyda mwy na £110.5m wedi’i roi o’r neilltu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf, mae’r gyllideb yn cynnwys cynnydd o 9.5 y cant yn y dreth gyngor, y mae Arweinydd y Cyngor, Huw David, wedi’i ddisgrifio’n ‘angenrheidiol er mwyn helpu i ariannu ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, ac i sicrhau bod y gyllideb yn parhau i fod yn gwbl gytbwys’.

Mae cynlluniau cyllido ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn cynnwys £113m ar gyfer Ysgolion, £105m ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, a £59m ar gyfer cyllidebau ar draws y cyngor, sy’n cynnwys meysydd megis gostyngiadau’r dreth gyngor, cyllidebau yswiriant, rhyddhad ardrethi dewisol, a mwy.

Bydd gwasanaethau Addysg Canolog yn derbyn £30m, a bydd £30m pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer Cymunedau. Bydd gwasanaethau sydd wedi’u grwpio dan weinyddiaeth/swyddogaethau’r Prif Weithredwr yn derbyn £22m.

Mae’r Cabinet hefyd wedi cytuno i gadw ychydig dros £1m mewn cronfa wrth gefn rhag ofn na fydd unrhyw un o’i gynigion arfaethedig i arbed arian yn cael eu cyflawni’n llawn, neu pe byddai pwysau ychwanegol yn codi.

Wrth siarad yn y Cabinet, dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Mae cynghorau ledled y DU wedi treulio mwy na degawd yn darparu dros 800 o wahanol fathau o wasanaethau yn llwyddiannus gan hefyd ymdopi gyda phrinder cynyddol o ran adnoddau, mesurau cyni, yr angen i wneud arbedion flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac effaith digwyddiadau megis Brexit, y pandemig byd-eang a’r argyfwng costau byw.

“Dim ond edrych ar benawdau newyddion dyddiol sydd angen i chi ei wneud i wybod bod hwn yn argyfwng cenedlaethol, nid un lleol. Trwy gydol hyn oll, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud popeth o fewn ei allu i warchod trigolion lleol rhag teimlo effaith lawn y toriadau hyn, ac wedi parhau i fod yn uchelgeisiol ar gyfer yr ardal a’r bobl yr ydym ni’n eu gwasanaethu ac yn eu cynrychioli.

“Fodd bynnag, rydym bellach wedi cyrraedd sefyllfa lle mae’r opsiynau “meddal” wedi’u disbyddu, ac ni allwn bellach warchod pobl rhag profi effaith rhai o’r toriadau hyn. Mae llywodraeth leol yn wynebu risgiau digynsail yn gyffredinol, ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiogel rhag hynny.”

Rydym yn parhau i wynebu pwysau sylweddol, yn enwedig ar draws y gwasanaethau cymdeithasol lle rhagwelir y bydd gorwariant o £12.5m. Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaeth gyfreithiol o gydbwyso’r gyllideb, mae cynnydd cyndyn o 9.5 y cant yn y dreth gyngor yn dal i fod yn angenrheidiol – ond hoffwn bwysleisio mai o’r fan honno y bydd pethau megis y £113m ar gyfer ysgolion, £105m ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a £30m ar gyfer gwasanaethau addysg yn dod.

Yn ogystal ag adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus, rydym hefyd wedi derbyn cymaint o argymhellion craffu trawsbleidiol â phosibl mewn ymdrech i sicrhau bod cyllideb 2024-25 mor gynrychioladol â phosibl. Nid yw darparu gwasanaethau cyhoeddus ar ôl degawd lawn o doriadau mewn cyllid ac adnoddau’n dasg hawdd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hynod gymhleth hon.

Mae cyllid llywodraeth leol yn parhau i wynebu dyfodol anodd ac ansicr, ond hoffwn sicrhau trigolion y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i wynebu’r her hon, ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau hanfodol wrth i ni symud i mewn i 2024-25 a thu hwnt.

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:

Bydd y cynigion nawr yn mynd gerbron cyfarfod Cyngor llawn ddydd Mercher 28 Chwefror lle byddant yn cael eu cyflwyno ar gyfer trafodaeth a chymeradwyaeth derfynol gan yr holl aelodau.

Chwilio A i Y