Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Polisi cwcis

Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am eu gwneud yn rhwydd, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Pan ddarperir gwasanaethau ar y rhyngrwyd, mae hyn weithiau’n golygu bod angen gosod rhai darnau o wybodaeth ar eich dyfais. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw cwcis.

Defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i wella gwasanaethau i chi trwy, er enghraifft:

  • alluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel na fydd rhaid i chi roi’r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod un dasg
  • sylweddoli y gallech eisoes fod wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair ac felly nad oes angen i chi roi’r wybodaeth honno ar gyfer pob tudalen we y gofynnir amdani
  • mesur faint o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau ar-lein, i’n helpu i wella’r wefan

Trwy addasu dewisiadau eich porwr, cewch ddewis derbyn pob cwci, cael gwybod pan fo cwci wedi’i osod neu wrthod pob cwci. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol na fyddwch yn gallu defnyddio rhai o’r gwasanaethau ar-lein a ddarperir gan y safle hwn os byddwch yn gwrthod cwcis. I gael mwy o wybodaeth am gwcis ewch i’r wefan 'about cookies'.

Rydym yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddi ar y we a ddarperir gan Google, i ganfod sut y mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn i ni allu ei gwella. Cesglir gwybodaeth yn ddienw ac adroddir am dueddiadau yn ymwneud â’r wefan heb i ni allu adnabod ymwelwyr unigol.

Isod ceir rhestr o’r cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan, wedi’u gosod mewn grwpiau yn ôl yr hyn y maent yn ei wneud.

Cwcis ar gyfer cadw eich dewisiadau.
Enw’r cwci Diben
SplashScreenTrans Yn cadw gwerth i gofio’r dewis iaith (Cymraeg / Saesneg) pan fydd defnyddiwr yn ail-ymweld â’r wefan.
_ba*
rwebooks-x
rwebooks-x
Mae’r cwcis yma’n cael eu pennu ar gyfer cwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth Browsealoud, i ddarllen yn uchel a chyfieithu cynnwys ein safle. Mae’r cwcis yn galluogi’r gwasanaeth i weithio drwy storio dewisiadau’r defnyddiwr wrth iddo symud drwy’r safle, gan gynnwys ei osodiadau ar gyfer yr adnodd, unrhyw ddewis o iaith mae wedi’i wneud, lleoliad y bar adnoddau, a sut mae’n derbyn ymwadiadau.
AlertCookie Yn cadw gwerth i gadw’r bocs rhybudd ar gau pan fo defnyddiwr wedi anwybyddu neges benodol.
CookieControl Defnyddir y cwci yma i gofio dewis defnyddiwr ynghylch cwcis ar Bridgend.gov.uk. Os yw defnyddiwr wedi dynodi dewis yn flaenorol, bydd y dewis hwnnw gan y defnyddiwr yn cael ei storio yn y cwci yma.
_ga
_gali
_gat
_gid
Defnyddir y cwcis yma i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan a’r blog, o ble mae ymwelwyr wedi dod i’r wefan a’r tudalennau maen nhw wedi edrych arnyn nhw. Darllenwch grynodeb Google o ddata preifatrwydd a diogelu

 

Cwcis ar gyfer cynnwys wedi’i ymgorffori
Enw’r cwci Diben
PREF*
VSC*
VISITOR_INFO1_LIVE*
remote_sid*

Rydym yn ymgorffori fideos o’n sianel YouTube swyddogol gan ddefnyddio dull preifatrwydd uwch YouTube. Gall y dull yma osod cwcis ar eich cyfrifiadur ar ôl i chi glicio ar chwaraewr fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth cwcis sy’n galluogi adnabod ar gyfer chwarae fideos wedi’u hymgorffori yn ôl yn defnyddio’r dull preifatrwydd uwch. Darllenwch fwy ar dudalen gwybodaeth ymgorffori fideos YouTube.

PREF* yn dod i ben ar ôl 8 mis
VSC - * yn dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn
VISITOR_INFO1_LIVE - * yn dod i ben ar ôl 8 mis
remote_sid - * yn dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn

Cwcis ar gyfer gwella gwasanaeth trwy fesur traffig.
Enw’r cwci Diben
__utma Mae’n cadw cofnod o sawl gwaith y mae ymwelydd wedi bod i’r safle, pryd yr ymwelodd â’r safle gyntaf a phryd yr ymwelodd â’r safle ddiwethaf. Mae’n dod i ben ar ôl dwy flynedd.
__utmb ac __utmc Mae’r cwcis B ac C yn gweithio gyda’i gilydd i fesur hyd ymweliad.Mae __utmb yn cymryd stamp amser o’r union eiliad pan fo ymwelydd yn ymweld â safle, ac mae __utmc yn cymryd stamp amser o’r union eiliad pan fo ymwelydd yn gadael safle.Mae __utmb yn dod i ben ar ddiwedd y sesiwn. Mae __utmc yn aros 30 munud, ac yna’n dod i ben.

Nid oes modd i __utmc wybod pryd mae defnyddiwr yn cau ei borwr neu’n gadael gwefan, felly mae’n aros 30 munud i dudalen arall gael ei hagor. Os na fydd hynny’n digwydd, mae’n dod i ben.

__utmz Mae’n nodi o ble daeth yr ymwelydd, pa chwilotwr a ddefnyddiwyd, pa ddolen y cliciwyd arni, pa allweddair a ddefnyddiwyd, a ble yr oedd yn y byd pan aeth ar y wefan. Mae’n dod i ben ar ôl chwe mis.
Cwcis Fy Nghyfrif.
Enw’r cwci Diben
ASP.Net_SessionID Mae’r cwci yma’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r safle. Mae’n storio cod adnabod unigryw ar gyfer pob ymweliad er mwyn cadw gwybodaeth am y sesiwn dros dudalennau lluosog.
HASH_ASP.NET_SessionId Mae’r cwci yma’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r safle. Caiff ei ddefnyddio i atal unrhyw un rhag dyfalu cod adnabod y sesiwn.
ModalShown Caiff hwn ei ddefnyddio i arddangos y gwymplen. Er ei fod yn cael ei gyflwyno i bob cleient, dim ond Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n ei ddefnyddio.
MyAccountIdentificationBridgend Mae’r cwci yma’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r safle. Caiff ei ddefnyddio i ddilysu'r defnyddiwr. Rydym yn defnyddio hwn i storio gwybodaeth sy’n hanfodol i’r system.
Cwcis system WebMap Cadcorp ‘Edrych arno’

Enw’r cwci

Pwrpas

map.aspx; llyfrnodau

Mae Llyfrnodau Personol sy’n cael eu creu gan y defnyddiwr yn cael eu storio fel cwcis dyfal. Mae hyn yn galluogi i lyfrnodau gael eu cadw rhwng sesiynau.

Mae’r holl osodiadau map yn cael eu storio gan gwci dyfal. Mae hyn yn galluogi i osodiadau gael eu cadw rhwng sesiynau.

Gellir atal y sgrin sblash gyflwyniadol rhag ymddangos bob tro y sicrheir mynediad i’r wefan drwy ddefnyddio cwci dyfal.             

ASP.NET; cyfeirnod sesiwn

Mae’r cwci yma’n angenrheidiol i swyddogaethau’r safle. Fe’i defnyddir i atal unrhyw un rhag dyfalu cyfeirnod y sesiwn.

map.aspx; caniatâd cwci

Defnyddir cwci sesiwn i gynnal cyflwr sesiwn asp.net ar gyfer y defnyddiwr. Mae’n cael ei ddileu pan fydd y porwr yn cael ei gau.

Chwilio A i Y