Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd rhestr trafnidiaeth strategol o fewn yr hinsawdd ariannol bresennol

Yng ngoleuni’r sefyllfa ariannol bresennol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi pwysleisio pwysigrwydd rhestr o brosiectau trafnidiaeth strategol, yn ogystal ag adolygiad Cabinet o’r rhestr yn y dyfodol agos.

Bu i drafodaethau mewn cyfarfod Craffu diweddar amlygu sut y bydd adolygiad o’r rhestr yn sicrhau y bydd ein holl gynlluniau yn parhau i fod yn berthnasol a hefyd yn ystyried effaith ariannol gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol ar yr awdurdod, yn ogystal ag ar seilwaith presennol. 

Mae’r rhestr trafnidiaeth strategol yn datgelu pa gynlluniau gellid eu datblygu pan fydd cyllid newydd ar gael gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, un ai fel rhan o Raglen Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Y Gronfa Ffyniant Bro, cyfraniadau datblygwyr, neu ffynonellau cyllid eraill.  Mae’n bwysig fod y cyngor yn adnabod prosiectau trafnidiaeth ymlaen llaw, cyn bod y rhaglenni cyllid ar gael, er mwyn sicrhau cydnabyddiaeth ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Mae ein prosiectau strategol oll yn cyd-fynd ag amcanion byrdymor, tymor canolig a hirdymor Cynllun Trafnidiaeth Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2015-2030, y Cynllun Datblygiad Lleol, y llwybrau teithio llesol o fewn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, yn ogystal â dogfennau cenedlaethol megis Argymhellion Terfynol y Comisiwn Trafnidiaeth 2020, Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021, Polisi Cynllunio Cymru a Cymru'r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol.

Mae gan yr awdurdod lleol feini prawf clir i’w dilyn wrth flaenoriaethu prosiectau trafnidiaeth strategol, sydd yn cyd fynd â’r cynllun datblygu’r defnydd o dir lleol, yn ogystal ag amcanion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Gall cefnogi rhai o’r prosiectau trafnidiaeth fod yn heriol, yn bennaf oherwydd diffyg sylweddol mewn cyllid ac adnoddau staffio. Fodd bynnag, mae swyddogion yn parhau i hwyluso a gweithredu cynlluniau o’r fath dan yr amgylchiadau hyn.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y