Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pwysau cyllidebol yn gorfodi cyngor i dynnu’n ôl ei gymorth ariannol o brosiect Hybont

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau bod yr awdurdod yn bwriadu ‘tynnu’n ôl yn anfoddog’ ei gymorth ariannol ar gyfer prosiect tanwydd gwyrdd Hybont oherwydd diffyg o filiynau o bunnoedd a ragwelir ar gyfer 2024-25 a phwysau sylweddol newydd ar y gyllideb.

Mae uwch wleidyddion yn y cyngor wedi pwysleisio bod hwn yn benderfyniad ‘ariannol yn unig’ ac er bod yr awdurdod yn dal i gydnabod pwysigrwydd datblygu ffynonellau newydd, rhatach a glanach o danwydd ac ynni, maent yn cael eu gorfodi fwyfwy i ddewis rhwng cefnogi prosiectau o’r fath, a diogelu gwasanaethau hanfodol.

Wrth siarad mewn cyfarfod o’r Cabinet, dywedodd yr Arweinydd Huw David: “Drwy lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Marubeni Europower  a chadarnhau ein cefnogaeth i ddatblygu prosiect hydrogen newydd, roeddem yn cydnabod yr angen brys i ddatblygu ffynonellau tanwydd ac ynni glanach yn wyneb costau cynyddol a newid yn yr hinsawdd.

“Er bod yr angen hwnnw’n parhau i fod yn flaenoriaeth, rydym bellach mewn sefyllfa lle gallem gael ein gorfodi cyn bo hir i ddewis rhwng darparu cymorth ariannol ar gyfer prosiectau o’r fath, neu sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau i allu parhau i ddarparu a blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen hanfodol.

“Rhaid i ni ofyn i ni ein hunain, a allwn ni wirioneddol fforddio ymrwymo i wario tua £6.5m ar y prosiect hwn pan fyddwn ni, fel cynghorau eraill, hefyd yn rhagweld diffyg o filiynau o bunnoedd a phwysau cyllidebol newydd sylweddol iawn ar gyfer 2024-25?

“Yn wyneb dewisiadau mor anodd, rhaid i ni bob amser flaenoriaethu gwasanaethau hanfodol ar gyfer pobl leol, ac am y rheswm hwn rydym wedi penderfynu tynnu ein cymorth ariannol yn ôl yn anfoddol ar gyfer prosiect Hybont tra’n parhau i gydnabod pwysigrwydd dod o hyd i ffynonellau tanwydd ac ynni amgen.”

Gyda chefnogaeth ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, roedd yr arbenigwyr ynni adnewyddadwy o Japan Marubeni Europower wedi dewis Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel y lleoliad a ffefrir yn y DU ar gyfer prosiect arddangos hydrogen gwyrdd.

Mae safle ar gyfer cyfleuster newydd posibl, a allai gynhyrchu tanwydd glân ar gyfer cerbydau fflyd, yn amrywio o gerbydau graeanu’r cyngor i lorïau ailgylchu a chasglu sbwriel, wedi’i nodi yn Ystâd Ddiwydiannol Brynmenyn, ac mae Marubeni wedi cyflwyno cais cynllunio sy’n cael ei brosesu ar hyn o bryd.

Ychwanegodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rhaid i chi ond edrych ar yr hyn sy’n digwydd mewn cynghorau eraill ledled y DU i wybod ein bod i gyd yn wynebu anawsterau ariannol eithafol a heriau difrifol tebyg.

“Mewn byd delfrydol, byddai gennym ddigon o adnoddau i allu darparu gwasanaethau’r cyngor ar yr un pryd â chefnogi prosiectau arloesol fel hyn. Yn anffodus, yr ydym yn wynebu realiti lle mae rhai awdurdodau yn y DU wedi gorfod datgan eu hunain yn fethdalwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf, felly mae’n gwbl hanfodol ein bod yn parhau i fod yn rhesymegol iawn ynghylch y sefyllfa sydd ger ein bron.

“Rydym yn edrych ar gostau cyfalaf o £6m o leiaf a chostau refeniw o tua £525,000, a bydd y ddau yn anodd iawn eu darparu yn yr amgylchedd ariannol a ragwelir.

“Yn wyneb dewis o’r fath, rhaid i ni flaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer pobl leol, yn enwedig mewn meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.

“Ond, oherwydd ein bod hefyd yn parhau i gydnabod pwysigrwydd datblygu ffynonellau tanwydd ac ynni amgen, rydym wedi cytuno i siarad â sefydliadau partner fel Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac i weld a oes modd dod o hyd i ffordd arall ymlaen.

“Mae’r sgyrsiau hyn yn cael eu trefnu nawr. Yn y cyfamser, mae’r cais cynllunio sydd wedi cael ei gyflwyno gan Marubeni ar gyfer safle arfaethedig ym Mrynmenyn yn dal yn broses ar wahân, ac mae’n cael ei benderfynu ar hyn o bryd yn unol â rheolau a rheoliadau cynllunio arferol.”

Chwilio A i Y