Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cabinet i ystyried cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2024-25

Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd ddydd Mawrth 20 Chwefror i drafod y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2024-25.

Bydd aelodau’r cabinet yn clywed sut mae'r cynigion o fewn ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi cael eu cadarnhau’n derfynol yn dilyn dadansoddiad gofalus o adborth ymgynghoriad cyhoeddus, a chwblhau’r broses archwilio.

Ar ôl ystyried pwysau cyllideb o £30.4m a gostyngiadau angenrheidiol o ychydig dros £13m, y gyllideb arfaethedig ar gyfer darparu dros 800 o wasanaethau unigol yn 2024-25 yw £359.7m.

Os gaiff hyn ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod gyda'r Cyngor llawn ar 28 Chwefror ar gyfer rhan olaf y broses o osod cyllideb.

Mae rhai newidiadau sylweddol wedi cael eu gwneud i'r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb, gan gynnwys gostyngiad o 3 y cant, yn hytrach 5 y cant, mewn cyllid arfaethedig i ysgolion ar gyfer 2024-25 – un o’r materion yr oedd pobl yn teimlo gryfaf amdano yn ôl adborth yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Gan y bydd ysgolion hefyd yn derbyn cyllid ychwanegol i helpu gyda phwysau costau a thalu, bydd hyn yn golygu cynnydd ariannol cyffredinol ar gyfer cyllidebau ysgolion a allai, yn ôl amcangyfrifon cyfredol, gyrraedd cyn uched â £5m.

Mae cynigion ar gyfer cau gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu tynnu o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, ac mae toriadau arfaethedig i gyllid ar gyfer glanhau strydoedd, canolfannau ailgylchu, canolfannau cymunedol, ardaloedd chwarae, cefnogaeth i blant gydag anghenion ychwanegol, a chefnogaeth i helpu’r trydydd sector ymdrin â phrosesau rhyddhau o’r ysbyty, oll wedi cael eu hosgoi.

Bydd toriadau arfaethedig i wasanaethau cyfreithiol hefyd yn cael eu lleihau o £335,000 i £154,000, a thoriadau ar gyfer mesurau ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn cael eu lleihau o £255,000 i £55,000.

Mae’r adroddiad hefyd yn manylu ar sut mae'r cyngor yn parhau i wynebu pwysau sylweddol mewn rhai meysydd gwasanaeth, yn enwedig ar draws gwasanaethau cymdeithasol lle mae gorwariant amcanol o £12.5m, a sut mae cynnydd o 9.5 y cant yn y dreth gyngor yn parhau i fod yn un o’r cynigion ar gyfer cyllideb 2024-25, er mwyn cydbwyso’r gyllideb ac ymateb i’r pwysau parhaus.

Bydd y Cabinet hefyd yn cael cais i gadw ychydig dros £1m mewn cronfa ariannol wrth gefn rhag ofn na fydd unrhyw un o’i gynigion arbed arian yn cael eu gwireddu’n llawn, neu rhag ofn y bydd pwysau ychwanegol yn ymddangos yn ystod y flwyddyn i ddod.

Bydd y gyllideb yn cael ei thrafod gan y Cabinet ddydd Mawrth 20 Chwefror cyn symud ymlaen i’r Cyngor llawn ddydd Mercher 28 Chwefror, a gallwch weld yr adenda drwy fynd i www.bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y