Mae Ysgol Cynwyd Sant wedi ennill cystadleuaeth ddigidol Undeb Rygbi Cymru ddwywaith!
Dydd Iau 02 Tachwedd 2023
Daeth disgyblion Ysgol Cynwyd Sant i’r brig mewn dau gategori rhanbarthol yn y gystadleuaeth ddigidol ddiweddar a osodwyd gan Undeb Rygbi Cymru (URC), cyn cynrychioli Consortiwm Canolbarth y De yn y rowndiau terfynol a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality.