Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgyrch asthma yn ymweld â dwy ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Fel rhan o fenter ledled ysgolion Cymru, mae Ysgol Gynradd Penybont ac Ysgol Gymraeg Bro Ogwr wedi croesawu Asthma + Lung UK Cymru i’r ysgolion er mwyn proffilio’r ymgyrch i addysgu pobl am sut i ymateb os yw plentyn yn cael ymosodiad asthma.

Nod y cynllun yw pwysleisio pa mor bwysig yw hi i ysgolion a meithrinfeydd fod yn ymwybodol o gyflwr asthma plentyn, ac yn eu tro, eu helpu i fyw’n dda a ffynnu yn yr ysgol.  Mae’r elusen hefyd yn bwriadu codi ymwybyddiaeth ymysg staff ysgol am arwyddion ymosodiadau asthma, a all ddigwydd yn sydyn, neu dros ychydig ddyddiau.   Gall ysgolion lawrlwytho ac arddangos poster newydd sy’n cynnwys cyngor yn egluro beth i’w wneud os yw plentyn yn cael ymosodiad asthma, a phryd i ffonio 999.

Mae data’n dangos mai asthma yw'r cyflwr meddygol hirdymor mwyaf cyffredin ymysg plant Cymru, yn effeithio ar oddeutu 59,000 o bobl ifanc, gydag 852 o blant wedi gorfod mynd i’r ysbyty am ofal brys oherwydd eu hasthma rhwng 2021 a 2022.

Dywedodd Gemma Perkins, mam o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n cefnogi’r ymgyrch: “Ers 2018, mae fy mab wedi mynd i’r ysbyty 15 o weithiau oherwydd ei asthma. Mae ei ysgol yn sicrhau ei fod yn defnyddio ei anadlyddion, ac mae’n tawelu fy meddwl wrth ei anfon i’r ysgol, fel nad yw'n colli gormod.”

Dywedodd Joseph Carter, Pennaeth Asthma + Lung UK Cymru: “Hoffem ddiolch o galon i Ysgol Gynradd Penybont ac Ysgol Gymraeg Bro Ogwr am gymryd rhan yn ein gweithgareddau ymgyrch ‘Asthma yn yr Ysgol'. Roedd yn wych gweld y disgyblion yn ymgysylltu a’n dysgu am asthma. Roedd eu creadigrwydd a’u brwdfrydedd yn ysbrydoledig. Rydym eisiau i blant ag asthma i fyw’n dda a ffynnu yn yr ysgol ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o gyngor iechyd pwysig ar gyfer y 59,000 o blant sy’n byw ag asthma yng Nghrymu. Rydym wir yn gwerthfawrogi cymorth yr ysgol.”

Mae’n hyfryd bod y ddwy ysgol wedi cefnogi’r ymgyrch bwysig hon, yn galluogi’r plant i ddysgu mwy am asthma mewn ffordd ddiddorol a hwyliog - rwy’n clywed bod y plant wedi bod wrth eu boddau’n creu ysgyfaint allan o fagiau papur a chwythu i mewn iddynt gyda gwelltyn! Rwy’n sicr y bydd y plant yn dysgu o hyd ac yn cofio. Da iawn i bawb dan sylw.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y