Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae Ysgol Cynwyd Sant wedi ennill cystadleuaeth ddigidol Undeb Rygbi Cymru ddwywaith!

Y dasg a osodwyd oedd dylunio ac adeiladu clwb rygbi at y dyfodol gan ddefnyddio Minecraft ar gyfer Addysg, a heb feddwl ddwywaith roedd disgyblion Ysgol Cynwyd Sant yn barod i wynebu’r her honno.

Dywedodd y Brifathrawes, Sarah Gwen Richards, “Mae’r gystadleuaeth hon wastad yn boblogaidd ymysg ein disgyblion gyda phob dosbarth o Flwyddyn 3 i 6 yn brysur yn cydweithio, dylunio a chystadlu’n frwd. Cynhaliom gystadleuaeth fewnol yn yr ysgol ac fe ddewiswyd grwpiau yn ôl y canlyniadau.

Mae’r gystadleuaeth hon wastad yn boblogaidd ymysg ein disgyblion gyda phob dosbarth o Flwyddyn 3 i 6 yn brysur yn cydweithio, dylunio a chystadlu’n frwd. Cynhaliom gystadleuaeth fewnol yn yr ysgol ac fe ddewiswyd grwpiau yn ôl y canlyniadau.

Rydym yn hynod falch fod grŵp o Flwyddyn 6 a disgyblion o’n dosbarth anghenion dysgu cymedrol newydd wedi’u dewis i gystadlu yn y rowndiau terfynol rhanbarthol yn Stadiwm Principality. Cawsom ein trin fel sêr wrth i ni gael taith o amgylch y stadiwm a chael cyfarfod â chwaraewyr rhyngwladol. Roedd safon y gystadleuaeth yn eithriadol o uchel, ac rydym yn hynod falch o’n disgyblion a’u dyluniadau.

Pennaeth, Sarah Gwen Richards

Pob tro y caiff y gystadleuaeth ei chynnal mae ‘na wefr yn yr ysgol ac ymysg y disgyblion a braf yw gweld cymaint o angerdd a balchder sydd gan y disgyblion dros yr hyn y maen nhw wedi’i greu.

Mae hi’n dasg sy’n datblygu amrywiaeth o sgiliau ar draws y cwricwlwm ac rydym wedi sylwi ar welliant gwirioneddol wedi blwyddyn ar ôl blwyddyn o gystadlu.

Arweinydd Fframwaith Cymhwysedd Digidol yr ysgol, Thomas Roberts

Am anhygoel - i ennyn dysgwyr o bob rhan o’r ysgol i gymryd rhan mewn prosiect sydd nid yn unig yn datblygu dysgu annibynnol, ond sgiliau cydweithredol a chreadigrwydd hefyd, heb anghofio’r llu o nodweddion eraill, mae’r cyfle yma’n wych. Llongyfarchiadau i’r disgyblion a’r athrawon ac i URC am osod yr her! Arbennig yn wir!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y