Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddaru’r Cabinet ar gynnydd ailddatblygiad Pafiliwn y Grand Porthcawl

Ar ôl diweddariad ar gynnydd y gwaith o ail-ddatblygu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo rhai newidiadau i’r broses gaffael, er mwyn lleihau’r risg o unrhyw oedi i’r prosiect.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd £18m o Gyllid Ffyniant Bro i’r Cyngor gan Lywodraeth y DU, ar ôl i'r cyngor gyflwyno cais llwyddiannus, mewn partneriaeth agos ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Bydd y prosiect yn gwella cyflwr yr adeilad rhestredig Gradd II drwy fynd i’r afael â chanser concrid a chreu ystafelloedd digwyddiadau, swyddfeydd a chyfleusterau caffi newydd. Bydd gwelliannau mawr eu hangen hefyd yn cael eu gwneud i’r awditoriwm, ac mae cynlluniau hefyd yn cynnwys cyfleuster “mannau newid” hygyrch.

Mae amodau presennol y grant gan Lywodraeth y DU yn gofyn i’r prosiect fod wedi’i gwblhau erbyn Gwanwyn 2025, ac mae disgwyl y bydd contractwr wedi’i drefnu, a bod gwaith yn dechrau erbyn Gwanwyn 2024.

Oherwydd yr amserlenni tynn hyn, mae canllawiau caffael arferol y cyngor wedi’u hatal, ac mae Awen wedi cael caniatâd i barhau i gaffael gwasanaethau Purcell’s Architect’s o'r fframwaith PAGABO ar gyfer cam nesaf y broses ddylunio.

Mae Purcell’s yn arbenigwyr pensaernïol treftadaeth blaenllaw, a chawsant eu penodi drwy broses gaffael lawn er mwyn ymgymryd â’r gwaith dylunio cychwynnol, yn ogystal â’r cais cynllunio ar gyfer Pafiliwn y Grand.

Bwriedir cau’r Pafiliwn ar ddechrau 2024, ar ddiwedd rhaglen Nadolig eleni, ac mae opsiynau amgen yn cael eu hystyried ar hyn o bryd mewn perthynas â sut i gyflwyno rhaglen y Celfyddydau a diwylliannol Awen yn lleol pan fydd y gwaith yn mynd rhagddo.

Mae’r gwaith o ailddatblygu Pafiliwn y Grand yn cynrychioli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddiogelu’r adeilad eiconig hwn ar gyfer blynyddoedd i ddod, felly mae’n hynod bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y prosiect yn mynd rhagddo’n ddidrafferth.

Hoffwn hefyd atgoffa trigolion bod modd iddynt ddweud eu dweud ar y cynigion terfynol cyn eu cyflwyno ar gyfer y cynllunio ffurfiol maes o law. Mae’r cynigion terfynol ar gael ar-lein ar wefan Awen, a dylid anfon yr holl adborth erbyn 31 Hydref 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio:

Chwilio A i Y