Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cynnig ystod o ddatrysiadau i gynorthwyo masnachwyr marchnad sydd wedi eu dadleoli

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn trafodaeth ar amrywiaeth o opsiynau gyda masnachwyr sydd wedi eu dadleoli o Farchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau y gallant barhau i fasnachu hyd at y Nadolig.

Mae'r awdurdod lleol wedi bod mewn cyswllt rheolaidd â masnachwyr ers i neuadd y farchnad orfod cau yn dilyn darganfod Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn rhannau o'r to.

Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda masnachwyr a landlordiaid eiddo lleol; yn cynnwys perchnogion Canolfan Siopa'r Rhiw i nodi lleoliadau eraill addas, i alluogi'r masnachwyr ail afael ynddi unwaith eto cyn gynted ag y bo modd. 

Mae masnachwyr sy'n dymuno manteisio ar y lleoliadau eraill wedi cael cynnig lle, a sicrwydd na fydd y rhent yn fwy na'r rhent a delir yn y farchnad, am gyfnod o chwe mis.

Mae'r cyngor hefyd yn darparu cymorth llawn tuag at gostau gosod ac adleoli ac yn aros am benderfyniad y perchennog busnes ar hyn o bryd er mwyn cychwyn arni.

Nid yw’n ddull un maint i bawb. Mae swyddogion y cyngor wedi bod yn gweithio'n ddiflino, tu ôl i'r llenni i hwyluso ffordd ymlaen i alluogi pob masnachwr adleoli a masnachu unwaith eto cyn gynted ag y bodd, ar sail eu hamgylchiadau unigol eu hunain.

Er mwyn eu cynorthwyo ym mha bynnag ffordd y gallwn, rydym wedi cytuno i dalu eu costau gosod, unrhyw gostau symud ac addasu, ac i gostau rhentu newydd gyfateb i'r hyn maent yn ei dalu yn y farchnad dan do lle fo'n bosibl.

Rydym wedi cynnig cyngor cymorth busnes hefyd gan ein tîm Adran Economaidd yn cynnwys y cyfle am gymorth grant ariannol lle fo'n briodol. Mae masnachwyr yn cael cynnig stondin dros dro wythnosol yng Nghanolfan Siopa'r Rhiw ar hyn o bryd hefyd i'w galluogi i barhau i fasnachu. Ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i ddatrysiad addas i bob masnachwr, i'w galluogi i ail afael ynddi unwaith eto cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl, hyd at y cyfnod prysuraf o'r flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Chwilio A i Y