Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Torri Gwallt yn Codi Gwên yn Ysgol Gynradd Cwm Ogwr

I helpu yn ystod y cyfnod hwn o heriau ariannol, cynigwyd cymorth i rieni Ysgol Gynradd Cwm Ogwr drwy garedigrwydd Julie Grant a Lisa Morgan, trinwyr gwallt lleol.  Rhoddodd y ddwy eu hamser a’u sgiliau am ddim, gan dorri gwallt plant yn barod i ddychwelyd i'r ysgol.

Dywedodd Lisa: “Roedd cael y cyfle i gefnogi'r ysgol a llesiant y plant yn fraint llwyr. Roedd gweld y plant yn gwenu'n hapus ar ôl cael torri a steilio eu gwallt yn codi calon, yn anrhydedd ac yn amhrisiadwy.”

Roedd y rhieni’n ddiolchgar iawn o haelioni’r trinwyr gwallt.  Dywedodd un fam, Amanda: “Cafodd fy meibion, sy’n efeilliaid, dorri eu gwallt. Am gyfle anhygoel - mae wirioneddol wedi arbed llawer o arian i mi a fy ngŵr yn ystod cyfnod pan fo pethau mor dynn yn ariannol.” 

Nid yn unig yn yr ysgol y teimlir gwres caredigrwydd y ddwy hyn, ond ledled yr ardal, gan fod y ddwy yn perthyn i gôr elusennol ‘Maternal Harmony’.  Sefydlwyd y côr yn 2013 gan Gail James a Francesca Fearn, a oedd yn arfer gweithio yn y Gwasanaeth Ymateb a Rheoli Amenedigol (PRAMS) yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.   Yn wreiddiol, sefydlwyd y côr i gefnogi merched a oedd yn dioddef o anawsterau iechyd meddwl cynenedigol ac ôl-enedigol, ond mae’r côr wedi esblygu dros y blynyddoedd i godi arian ar gyfer nifer o elusennau lleol.

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Joanne Colsey: “Fel ysgol, rydym mor ymwybodol o'r effaith mae’r argyfwng costau byw yn ei chael ar ein disgyblion a’u teuluoedd. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o gefnogi teuluoedd yn ystod adegau penodol o’r flwyddyn pan fydd pwysau ariannol ychwanegol, fel dechrau blwyddyn ysgol newydd. Eleni, rydym wedi gwneud hyn drwy siop cyfnewid gwisg ysgol, yn ogystal â darparu poteli dŵr a bocsys bwyd am ddim wedi'u rhoi gan Tesco.

“Roeddem wrth ein bodd fod merched gwych y Côr Maternal Harmony wedi rhoi o'u hamser i dorri gwallt y disgyblion am ddim cyn iddynt ddychwelyd i'r ysgol, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn! Rydym yn ddiolchgar iawn amdanynt.”

  

Rwy’n meddwl bod Ysgol Gynradd Cwm Ogwr wedi pwysleisio’r modd y mae ysgolion yn gwbl ganolog i gymuned, ac yn meddu ar y cyfle i gefnogi ei haelodau'n ddiflino.

Mae'r ysgol, gyda chymorth Julie a Lisa o Maternal Harmony, wedi addysgu’r plant am garedigrwydd a chymunedau'n cefnogi ei gilydd - mae’r rhain yn werthoedd na ellir eu haddysgu o lyfr gwaith, ond o'r galon yn unig. Da iawn, bawb.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y