Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymuned ofalgar Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig yn tywynnu yn yr arolwg Estyn diweddar

Roedd y gymuned gefnogol, ymddygiad di-fai y plant sy’n gofalu a phryderu am ei gilydd, ymhlith y cryfderau a nodwyd gan arolygwyr mewn arolwg Estyn a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Cafodd y berthynas gref rhwng staff a disgyblion hefyd eu hamlygu gan arolygwyr Estyn, yn ogystal â’r ffordd mae staff yn llwyddo i ymgysylltu ac ysgogi dysgwyr yn ystod y gwersi.

Cafodd y pennaeth a’r dirprwy bennaeth, a benodwyd i’w swyddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, eu cydnabod yn adroddiad Estyn am weithio’n ddiwyd â thîm rheoli newydd yr ysgol i weithredu gwelliannau yn arferion yr ysgol. Cafodd llywodraethwyr yr ysgol eu cydnabod hefyd am gefnogi’r pennaeth ac uwch arweinwyr eraill.

Dywedodd y Pennaeth, Nicola Kelly Fisher: “Mae’n fraint cael arwain tîm anhygoel yn Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig, gyda chefnogaeth lawn ein corff llywodraethu. Cawsom ein harolygu gan yr arolygwyr mewn ffordd deg a thryloyw. 

“Mae angen canmol ein disgyblion, am ddangos ymdeimlad o berthyn a chariad at ddysgu, drwy gydol eu taith gyda ni. Rwy’n sicr y byddwn yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiant ac edrych tua’r dyfodol gyda’n cymuned gyfan.”

Am arolwg Estyn llwyddiannus! Dylai Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig fod yn falch iawn! Am wych mai un o brif uchafbwyntiau’r arolwg yw ansawdd y perthnasoedd yn yr ysgol – nid yn unig rhwng y disgyblion â’r staff, ond rhwng y disgyblion eu hunain. Dyma’r sail y mae cymunedau ysgol wedi’u hadeiladu arni. Llongyfarchiadau i bawb!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y