10K Ogi Porthcawl hynod boblogaidd yn dychwelyd y Sul hwn
Dydd Mercher 03 Gorffennaf 2024
Bydd 10K Ogi Porthcawl yn dychwelyd y penwythnos hwn (dydd Sul 7 Gorffennaf) a hoffem atgoffa’r preswylwyr y bydd rhai mesurau diogelwch ar waith, yn cynnwys dargyfeirio bysiau a chau rhai ffyrdd dros dro.