Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adborth llawn canmoliaeth i Wasanaeth Cam-drin Domestig Assia Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia wedi derbyn adborth gwych gan drigolion ar draws y fwrdeistref sirol sydd wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth sy’n cael ei arwain gan y cyngor.

Mae’r Gwasanaeth Assia, sy’n gweithredu mewn lleoliadau gwahanol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi derbyn diolch di-ben-draw gan ddioddefwyr am y cymorth, y gefnogaeth a’r arweiniad a’r cyswllt cyson a gynigir gan ei staff.  Mae un aelod o dîm Assia wedi ei ddisgrifio fel ‘angel o’r nefoedd’ a dywedodd defnyddiwr arall y gwasanaeth hyn am y tîm: “Yn ddiweddar rwyf wedi dioddef cam-drin domestig. Mae’r Gwasanaeth Assia wedi darparu cymorth anhygoel ers y digwyddiad, a ddigwyddodd ychydig o wythnosau’n ôl. Rwyf mor falch o fod yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chael yr hawl i’r cymorth a’r cydweithrediad aml asiantaethol gwych.”

Mae pob aelod o’r tîm Assia wedi derbyn yr un hyfforddiant manwl ac yn hollol gymwys ac achrededig i weithredu fel Ymgynghorydd Cam-drin Domestig Annibynnol (IDVA).  Yn sgil anghenion amrywiol y dioddefwyr, mae gan staff o fewn y tîm rolau penodol – yn amrywio o IDVA Plant i IDVA Llys, sy’n gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn cynorthwyo dioddefwyr yn ystod y broses farnwrol.

Yn fwy diweddar, mae Assia wedi cyflwyno IDVA Dioddefwyr Gwrywaidd, gan wneud y gwasanaeth yn fwy hygyrch i ddynion sy’n dioddef cam-drin domestig.  Mae ystadegau’n dangos sut mae’r nifer o ddioddefwyr gwrywaidd a dderbyniodd gymorth y gwasanaeth wedi dyblu rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2023.  Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, mae’r tîm wedi ymwneud â 10.2 y cant o ddynion, 12.3 y cant rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, ac yn olaf, 20.1 y cant o ddynion rhwng mis Ebrill 2023 hyd at fis Rhagfyr 2023.

Mae cynnydd cyffredinol wedi bod yn y defnydd o’r gwasanaeth, sy’n rhannol gysylltiedig â’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael o fewn y fwrdeistref sirol.  Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022 cafwyd 1,767 o gyfeiriadau, rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 cafwyd 2,891 o gyfeiriadau, ac, yn ystod cyfnod byrrach, rhwng mis Ebrill 2023 a mis Rhagfyr 2023, roedd yna eisoes 1,948 o gyfeiriadau.

Rydym yn falch iawn o frwdfrydedd, dycnwch, ymrwymiad, ac yn fwy na dim, y gofal, mae’r tîm Assia wedi bod mor barod i’w ddangos. Mae’r nodweddion hyn yn cael eu hadlewyrchu’n glir yn yr adborth mae dioddefwyr wedi ei roi am y gwasanaeth.

Mae’r Gwasanaeth Assia’n parhau i fynd o nerth i nerth, o sicrhau bod pob grŵp o fewn y gymuned yn cael ei gynrychioli, i sefydlu cysylltiadau gydag amrywiol sefydliadau eraill i gynorthwyo’r defnyddwyr ymhellach. Er enghraifft, er bod gan Assia wasanaeth cyfieithu Pwylaidd ar gael, mae wedi gwneud cysylltiadau da gydag Opoka (sy’n golygu ‘sylfaen’ neu ‘graig’ mewn Pwyleg), sef gwasanaeth sy’n ymrwymo i gynorthwyo teuluoedd o’r gymuned Bwylaidd i wella wedi cam-drin domestig.

Diolch o galon i’r tîm am eu holl waith yn cynorthwyo’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig - gallaf eich sicrhau, mae eich ymdrechion yn cael eu cydnabod a’u canmol.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Os oes angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia, ffoniwch 01656 815919 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5.00pm neu e-bostiwch assia@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y