Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisio barn ynglŷn â dyfodol canol tref Porthcawl

Yn ystod sesiwn galw heibio ac ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn para tair wythnos, gofynnir i drigolion a busnesau Porthcawl am eu safbwyntiau a’u syniadau ynglŷn â sut y gall canol y dref ddatblygu, ffynnu a mwynhau dyfodol llewyrchus.

Trefnir y gwaith ymgysylltu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol â Siarter Creu Lleoedd Cymru, a bydd yn helpu i gasglu gwybodaeth, safbwyntiau, barn a syniadau hanfodol a gaiff eu dadansoddi’n fanwl a’u defnyddio i helpu i ddatblygu Strategaeth Creu Lleoedd Canol Tref Porthcawl.

Bydd y sesiwn galw heibio’n cael ei chynnal rhwng 9am – 7pm ar 14 Mawrth yn Eglwys y Drindod, a bydd yr ymgynghoriad ar waith am dair wythnos rhwng 14 Mawrth – 4 Ebrill.

Mae’r trefniadau ynglŷn â sut y gallwch gymryd rhan a dweud eich dweud wrthi’n cael eu cadarnhau a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion cyn bo hir.

Medd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio: “Mae Creu Lleoedd yn galluogi sefydliadau, busnesau a chymunedau i weithio’n agos gyda’i gilydd i bennu’r cryfderau, y gwendidau a’r nodweddion unigryw sy’n helpu i ddiffinio’r ardal, ac ystyried sut y gellir defnyddio hyn oll i lunio strategaeth a fydd yn diogelu ac yn cyfoethogi’r ardal tra’n sicrhau ffyniant yn y dyfodol.

“Rydym yn awyddus i weithio ochr yn ochr â phobl a busnesau lleol i ddatblygu Strategaeth Creu Lleoedd Canol Tref Porthcawl – strategaeth a fydd yn cynnig rhyw fath o gynllun cysyniadol ar gyfer twf a datblygiad. Ond er mwyn cyflawni hyn, rydym angen clywed barn cynifer o bobl â phosibl.

“Dyma gyfle i alw heibio a siarad â swyddogion adfywio’r cyngor a chael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau creu lleoedd. Felly, gobeithio y dewch draw i ddweud eich dweud ynglŷn â dyfodol canol tref Porthcawl.”

Chwilio A i Y