Cynllun bwyd cymunedol Ysgol Gynradd Cwmfelin yn mynd o nerth i nerth
Dydd Mercher 05 Mehefin 2024
Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin yn dathlu llwyddiant ei menter fwyd ‘Big Bocs Bwyd’ (BBB), a gafodd ei chydnabod gan Estyn fel model o arfer da, sy'n estyn cymorth i'r gymuned ehangach, gyda dysgwyr yn yr ysgol a thu allan iddi yn elwa.