Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cabinet i ystyried opsiynau estynedig ar gyfer gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i archwilio opsiynau ar gyfer darparu'r gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn fewnol, neu eu darparu trwy gwmni masnachu LATO awdurdod lleol yn y dyfodol.

Daw'r penderfyniad yn dilyn adroddiad gan yr arbenigwyr Eunomia wnaeth adnabod tri opsiwn gwahanol i'r cyngor ddelio gyda gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu pan fydd y cytundeb dwy flynedd presennol gyda Plan B Management Solutions Ltd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.

Roedd yr opsiynau yn cynnwys dod â gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn ôl yn fewnol dan ofal y Cyngor, rhedeg y gwasanaeth drwy drefniant LATCO, neu gaffael contractwr gwastraff allanol newydd i gynnal y gwasanaeth ar ran y Cyngor - yn seiliedig ar gyngor gan yr ymgynghorydd, sef argymhelliad dewisol yr adroddiad.

Wedi trafod y tri opsiwn, cytunodd yr aelodau na ddylid bwrw ymlaen gyda chaffael contractwr allanol, ond i roi cyfarwyddyd i swyddogion ddod ag adroddiad newydd yn ôl i'r cabinet er mwyn edrych ar a fyddai trefniant LATCO yn gallu cynnwys gwasanaethau ychwanegol gan y cyngor ochr yn ochr â gwastraff ac ailgylchu, a hefyd beth yn union fyddai'r manylion o ddarparu'r gwasanaeth yn fewnol.

Gan fod gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn effeithio pob cartref yn y fwrdeistref sirol, rwy'n credu y dylem ni fod yn edrych ar opsiynau sy'n ymgorffori'r atebolrwydd mwyaf cyflawn, mwyaf uniongyrchol ynghylch sut y byddai'n gweithredu.

Hoffem ni wybod mwy am faterion megis a fyddai darparu'r gwasanaeth yn fewnol neu ei ddarparu fel LATCO yn galluogi'r Cyngor i gadw mwy o hyblygrwydd a rheolaeth dros sut mae casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu rhoi ar waith, sut allwn ni ymateb i'r newidiadau yng nghyflwr y farchnad, ac a fyddai gennym fwy o ryddid i ddelio gyda thargedau newydd a gofynion statudol newydd sy'n datblygu.

Gan fod hyn yn cadw'n agos at yr awgrymiadau gafodd eu rhoi ymlaen yn y cyfarfod craffu gynhaliwyd yn ddiweddar, rydym o'r farn ei bod yn bendant werth dod i wybod mwy am yr opsiynau hyn cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "O ystyried yr heriau cynyddol anodd mae llywodraeth leol yn eu hwynebu, mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi gwneud llawer iawn o waith i roi ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau yn eu lle.

“Tra bod opsiwn LATCO ar gyfer delio gyda gwastraff ac ailgylchu yn un diddorol, y mae hefyd yn darparu cyfle gwych posib i ni fynd â'r broses gam ymhellach, ac i ganfod a ellid rhedeg gwasanaethau ychwanegol y ffordd yma hefyd.

"Yn yr un modd, dylem archwilio a fyddai dod â'r gwasanaethau yn ôl i gael eu  rhedeg yn fewnol yn rhoi mwy o ymdeimlad o reolaeth i ni, neu o allu cryfhau gwytnwch y gwasanaeth yn wyneb pwysau allanol."

“Cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael wneud, mae'n gwneud synnwyr i ni edrych mewn mwy o fanylder ar ba fanteision allai'r ddau opsiwn yn eu cynnig i'r Cyngor. Rydym hefyd yn cydnabod bod angen gwneud penderfyniad terfynol ar frys ynghylch y ffordd orau o symud ymlaen, felly rydym yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad pellach ar hyn yn fuan iawn.”

Chwilio A i Y