Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dyddiad cyfarfod newydd i gael ei drefnu ar gyfer cais cynllunio Hybont

Ni fydd cais ar gyfer cyfleuster cynhyrchu hydrogen a fferm solar gysylltiedig yn ardal Brynmenyn a Bryncethin yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau ar ddydd Llun 29 Ebrill mwyach.

 

Bydd y cyfarfod arbennig yn dal i gael ei gynnal, ond mae’r cais Hybont wedi cael ei ohirio er mwyn rhoi mwy o amser i swyddogion cynllunio gwblhau’r gwaith dadansoddi materion megis graddiant priffyrdd a lefelau sŵn, ac er mwyn ystyried a phrosesu gwybodaeth newydd ac ychwanegol sydd newydd ddod i law.

 

Trefnwyd y cyfarfod arbennig yn wreiddiol yn sgil y lefel uchel o ddiddordeb gan y cyhoedd yn y cais, i ganiatáu ymweliad â safle arfaethedig y cyfleuster newydd, ac i ddarparu hawliau siarad estynedig o ganlyniad i’r nifer fawr o wrthwynebiadau sydd wedi’u cyflwyno.

 

Mae’r ymweliad â’r safle a oedd wedi’i drefnu ar gyfer bore’r cyfarfod arbennig hefyd wedi cael ei ohirio.

 

Cyflwynwyd y cais Hybont gan yr arbenigwyr ynni adnewyddadwy o Japan, Marubeni Europower Ltd., a bydd y penderfyniad yn ei gylch yn seiliedig ar ei rinweddau unigol, yn unol â chanllawiau a rheoliadau cynllunio.

 

Cyhoeddir dyddiad newydd ar gyfer y cyfarfod arbennig dan sylw o’r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau cyn bo hir. Yn y cyfamser, mae rhagor o wybodaeth ynghylch y datblygiad arfaethedig ar gael yn www.hybont.co.uk.

Chwilio A i Y