Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllid ar gyfer gardd goedwig fwytadwy yn y Pîl

Wedi’i ariannu gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Bartneriaeth Natur Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, mae disgwyl i Gyngor Cymunedol y Pîl dderbyn £50k i drawsnewid tir diffaith a oedd unwaith yn gyrtiau tennis yn ardd goedwig fwytadwy.

Wedi’i leoli yng nghefn Pwll Nofio y Pîl, mae'r tir wedi’i glustnodi ar gyfer coed llydanddail, coed ffrwythau, llwyni a blodau gwyllt, yn ogystal â llwybrau cerrig a lleoedd i eistedd o amgylch y safle.   Bydd yr holl blanhigion a gynlluniwyd ar gyfer y llecyn hwn naill ai’n fwytadwy neu’n ddefnyddiol mewn rhyw ffordd arall, fel darparu cysgod i amrywiaeth o fywyd gwyllt.  Bydd gwybodaeth am gynefinoedd a'r rhywogaethau y gallant eu cartrefu hefyd yn cael ei harddangos ledled yr ardd. 

Mae’r artist lleol, Nigel Talbot, wedi creu strwythurau coed â deunydd seramig wedi’i osod ynddynt, a grëwyd gan ddysgwyr o Ysgolion Mynydd Cynffig ac Ysgol Gynradd y Pîl, yn ogystal ag Ysgol Gyfun Cynffig.  Bydd ysgolion lleol yn cael eu hannog i barhau â’u cysylltiad â’r prosiect drwy ddefnyddio’r tir i wella dealltwriaeth disgyblion ynglŷn â bioamrywiaeth.

Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y cyllid hwn - bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r ardal ac yn darparu adnodd addysgiadol gwerthfawr i blant Mynydd Cynffig a’r Pîl. Ers nifer o flynyddoedd mae’r tir hwn wedi bod yn ddiffaith, ond bydd nawr yn dod yn fwy heddychlon, naturiol i bawb yn ein cymuned ei fwynhau.

Cynghorydd Rhys Watkins, Cadeirydd Cyngor Cymunedol y Pîl

Mae’r fenter sydd wedi’i chynllunio ar gyfer y tir segur y tu ôl i Bwll Nofio y Pîl, yn destun cyffro mawr i ni. Mae'r ardd goedwig fwytadwy yn addo cynnig amrywiaeth o fuddion iechyd a llesiant i drigolion lleol.

Ynghlwm â nifer o’r ysgolion lleol, mae’r prosiect eisoes wedi creu cysylltiadau cryf â’r gymuned. Rydym yn edrych ymlaen at weld datblygiad y fenter hon a’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar yr ardal.

Councillor John Spanswick, Cabinet Member for Climate Change and the Environment

Llun: Cynlluniau ar gyfer gardd goedwig fwytadwy yn y Pîl.

Chwilio A i Y