Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newyddion

Croeso i ganolfan cyfryngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys newyddion diweddaraf o’r fwrdeistref sirol, a gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ffilm disgyblion yn cyrraedd y sgrin fawr!

Roedd carped coch y tu allan i Odeon Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf ar gyfer premiere ‘Dragon Hunters’, ffilm a gynhyrchwyd gan grŵp o ddisgyblion blwyddyn 6 a fydd yn symud i Ysgol Gyfun Maesteg ym mis Medi.

Wyth man gwyrdd yn derbyn gwobr fawreddog Y Faner Werdd

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr Y Faner Werdd eleni, ac mae wyth parc a man gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cydnabyddiaeth am eu safonau uchel.

Gweithgareddau di-ri i bobl ifanc lleol yr haf hwn

Wrth i’r flwyddyn ysgol ddod i ben, mae amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous wedi’u cynllunio i blant ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr haf hwn.

Y Cyngor yn awyddus i fod yn rhan o chwyldro ynni glân y DU

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o gonsortiwm a fydd yn gwneud cynnig am gyfran o £40 miliwn o gyllid y llywodraeth ganolog, er mwyn datblygu ffyrdd o ddatgarboneiddio defnydd ynni’r ardal leol.

Dirwy o £100 am beidio â chodi baw ci

Gallai dirwyon o hyd at £100 gael eu cyflwyno’n fuan er mwyn mynd i’r afael â baw ci a pherchnogaeth anghyfrifol o gŵn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyfle olaf i dynnu sylw at eich busnes!

Mae gan fusnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr tan ddydd Gwener yma, y 13 Gorffennaf, i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Gwobrau anrhydeddus Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2018.

Chwilio A i Y