Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newyddion

Croeso i ganolfan cyfryngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys newyddion diweddaraf o’r fwrdeistref sirol, a gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Llwybr treftadaeth newydd ar gyfer Cwmogwr

Cyn bo hir, bydd hanes Cwmogwr yn cael ei adrodd ar hyd llwybr treftadaeth rhyngweithiol newydd. Bydd y llwybr yn dechrau ym Mharc Gwledig Bryngarw, ac yn troelli i fyny'r cwm ar hyd y llwybr beicio a cherdded i Nant-y-moel, a bydd paneli gwybodaeth wedi'u lleoli ar ei hyd, yn dogfennu gorffennol yr ardal ac yn amlygu mannau o ddiddordeb, yn ogystal â llwybrau beicio a cherdded ychwanegol.

Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a sbwriel dros Ŵyl y Banc

Ni fydd unrhyw ailgylchu na sbwriel yn cael eu casglu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun 27 Awst, oherwydd Gŵyl y Banc, felly, bydd casgliadau un diwrnod yn hwyrach na'r arfer am weddill yr wythnos tan ddydd Sadwrn 1 Medi.

Newidiadau i'r amserlenni bysiau

Dylai defnyddwyr bysiau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nodi amserlen bysiau ddiwygiedig sydd wedi'i chyflwyno gan First Cymru ar gyfer gwasanaethau lleol.

Chwilio A i Y