Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newyddion

Croeso i ganolfan cyfryngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys newyddion diweddaraf o’r fwrdeistref sirol, a gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Ionawr 2019  

Nodyn am boteli nwy wrth i Ganolfannau Ailgylchu ddychwelyd at oriau'r gaeaf

Wrth i Ganolfannau Ailgylchu Cymunedol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddychwelyd at oriau agor y gaeaf yr wythnos hon, mae trigolion lleol yn cael eu hatgoffa mai'r canolfannau yw'r llefydd gorau a mwyaf diogel i ailgylchu unrhyw boteli nwy gwag sydd dros ben ers tymor gwersylla'r haf.

Heol glan y môr ar gau yn ystod Gŵyl Elvis Porthcawl

Er mwyn helpu i sicrhau y gall y torfeydd sy’n dod i Ŵyl Elvis ym Mhorthcawl (28 – 29 Medi) fwynhau mynd am dro yn ddiogel ar hyd glan y môr Porthcawl yn eu hesgidiau swêd glas a’u gwisgoedd amryliw, bydd rhan o’r brif ffordd ar lan y môr ar gau am y rhan fwyaf o’r penwythnos.

Cymeradwyaeth i enillwyr gwobrau goruchaf Pen-y-bont ar Ogwr!

‘Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr’ yw prif raglen gwobrau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Wedi’u noddi gan y sefydliad Tai Cymoedd i'r Arfordir, cafodd y seremoni eleni ei chynnal yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr yn Llangrallo yn ddiweddar.

300 o Ofalwyr Ifanc yn elwa o gynllun cerdyn adnabod

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dosbarthu ei 300fed cerdyn adnabod i Ofalwyr Ifanc mewn cynllun a fwriadwyd i wella dealltwriaeth pobl o’r materion a wynebir gan Ofalwyr Ifanc.

Sieciau ar gyfer elusennau’r Maer

Mae cyn-Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd John McCarthy, wedi cyflwyno sieciau i dair elusen y dewisodd eu cefnogi yn ystod ei flwyddyn yn y swydd.

Angen barn y cyhoedd ynglŷn â thoriadau posibl gan y cyngor

Wrth i awdurdodau lleol barhau i ymdrin â chyllidebau llai a achoswyd gan ddegawd o gyni, mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried gwneud toriadau i wasanaethau sy’n cynnwys glanhau strydoedd, TCC, rheoli plâu, digwyddiadau yng nghanol y dref, dysgu oedolion, gwasanaethau cefnogi addysg, ynghyd â chau un allan o dair o’i ganolfannau ailgylchu cymunedol.

Chwilio A i Y