Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newyddion

Croeso i ganolfan cyfryngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys newyddion diweddaraf o’r fwrdeistref sirol, a gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Ionawr 2018  

Gweithredu toiledau cyhoeddus yn wahanol, er mwyn osgoi eu cau

Mae dau safle toiledau a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn debygol o gael eu newid yn rhai y bydd angen talu i’w defnyddio o fewn y flwyddyn nesaf, a bydd angen cau tri arall oni bai bod cynghorau tref yn cytuno i’w gweithredu o hyn ymlaen.

Awgrymiadau ailgylchu i ddisgyblion Llidiard

Gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Kier yn awyddus i addysgu’r genhedlaeth nesaf am ailgylchu, fe wnaethant wahodd grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Llidiard i ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu Gymunedol ym Maesteg.

Gŵyl Ddysgu unigryw i Gymru

Defnyddio technoleg realiti rhithiol yn yr ystafell ddosbarth, datblygu ysgolion ‘mynydd’ awyr agored a’r buddion a gynigir gan therapi Lego – dyma rhai o’r pynciau fydd dan sylw pan ddaw mwy nag 800 o athrawon, disgyblion, addysgwyr, hyfforddwyr a chyflogwyr at ei gilydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Gŵyl Ddysgu unigryw.

Ailddatblygiad £100,000 ar gyfer Llyfrgell y Pîl

Bydd bron i £100,000 yn cael ei fuddsoddi yn Llyfrgell y Pîl yn ddiweddarach yr hydref yma, diolch i Grant Cyfalaf Trawsnewid gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru ac arian cyfatebol gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Llwybr ‘Tywynnu yn y tywyllwch’ yn hwyluso teithio llesol

Mae rhwydwaith teithio llesol gwerth £1.5 miliwn ac sy’n cysylltu cartrefi, ysgolion a busnesau ym Mhencoed yn cynnwys llwybr ‘tywynnu yn y tywyllwch’ newydd a fydd yn dangos y ffordd i gerddwyr a beicwyr yn ystod misoedd y gaeaf.

Chwilio A i Y