Y gweithwyr a fydd yn cynnal gwasanaethau’r cyngor dros y Nadolig
Dydd Iau 24 Rhagfyr 2020
Tra bydd nifer ohonom yn mwynhau ychydig ddyddiau o wyliau dros gyfnod yr ŵyl, cofiwch am y bobl hynny a fydd ar ddyletswydd yn ystod 12 diwrnod y Nadolig, yn helpu i wneud y Nadolig yn arbennig i bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, yn gofalu am bobl fregus, yn cadw cymunedau’n lân ac yn daclus, ac yn sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel i deithio arnynt.