Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newyddion

Croeso i ganolfan cyfryngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys newyddion diweddaraf o’r fwrdeistref sirol, a gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ardal chwarae thema forwrol ar gyfer Cosy Corner

Mae ail gam y gwelliannau yn Cosy Corner ar fin dechrau, gydag ardal chwarae hygyrch newydd i blant yn cael ei chyflwyno er mwyn cwblhau adfywio’r ardal boblogaidd ar y glannau, cynllun sydd wedi costio £3m gyda’i gilydd.

Y Prif Weinidog yn ymweld ag Ysgol Gynradd Afon y Felin

Ar 16 Ionawr, roedd cyffro mawr yn Ysgol Gynradd Afon y Felin, yng Ngogledd Corneli, wrth ddisgwyl ymweliad y Prif Weinidog, Eluned Morgan. Yn ystod ymweliad byr, dysgodd y Prif Weinidog am yr ysgol, sy’n hyrwyddo hunan-gred a dyheadau’r plant, er gwaetha’r heriau economaidd-gymdeithasol.

Gwaith atgyweirio hanfodol wedi dechrau ar Ffordd Fynydd y Bwlch

Mae gwaith atgyweirio brys i’r cwlfert ar ffordd A4061 Bwlch-y-Clawdd, Nantymoel, wedi dechrau’r wythnos hon er mwyn mynd i’r afael â’r difrod a achoswyd gan Storm Bert ym mis Tachwedd. Oherwydd yr angen am atgyweirio ar frys, mae contractwr arbenigol sydd eisoes yn gweithio i’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i ymgymryd â’r gwaith fel bod modd ei hwyluso.

Y Cabinet yn pennu cynigion cyllidebol ar gyfer 2025-26

Mae cynigion cyllidebol ar gyfer 2025-26 wedi cael eu datgelu gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i’r awdurdod lleol gytuno ar gam nesaf ei strategaeth ariannol tymor canolig.

Chwilio A i Y