Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes gyda’r cyhoedd. Hefyd, rydym yn ymroddedig i helpu i godi ymwybyddiaeth trigolion a chyflogeion o’r iaith a’r diwylliant.

Mae ein strategaeth bum mlynedd yn disgrifio sut y byddwn yn bwriadu rhoi hwb i’r Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg ymhlith ein trigolion a’n cyflogeion.

Safonau’r Gymraeg

Mae ein dogfen gydymffurfio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2015 yn nodi'r 171 o safonau y mae angen i ni gydymffurfio â nhw.

Er 30 Mawrth 2016, roedd yn rhaid i ni gydymffurfio â 144 o safonau, a'r 27 sy'n weddill erbyn 30 Medi 2016. Mae'r safonau'n cynnwys pum thema:

  • Gwasanaethau
  • Gwneud polisïau
  • Gweithredoedd
  • Hyrwyddo
  • Cadw cofnodion

Mae'r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau.

Adroddiadau blynyddol 

Mae ein hadroddiadau blynyddol yn trafod ein gwaith o gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg:

Adroddiad 2022/23

Adroddiad 2021/22

Adroddiad 2020/2021

Adroddiad 2019/20

Adroddiad 2018/19

Adroddiad 2017/18

Adroddiad 2016/17

Adroddiad 2015/16

Cwynion am y Gymraeg

Rydym wedi diweddaru ein polisi cwynion corfforaethol i nodi sut rydym yn ymdrin â chwynion am y Gymraeg. Gwelwch ein polisi cwynion llawn yma.

Cyswllt

Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb
Ffôn: 01656 642625
Cyfnewid testun: 18001 01656 642625
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y