Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein holl wasanaethau, ac i drin ein trigolion, cwsmeriaid, cyflogeion ac ymwelwyr â pharch wrth ddarparu gwasanaethau sy'n ymateb i anghenion unigol y bobl.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae’r ddeddf yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus sy’n datgan bod rhaid i ni, fel Cyngor, ystyried yr angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd dan y ddeddf
  • datblygu cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion a ddiogelir ac unigolion sydd heb nodweddion o’r fath, er enghraifft drwy leihau neu gael gwared ar anfanteision, bodloni anghenion unigolion sydd â nodwedd a ddiogelir neu eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a bywyd cyhoeddus
  • annog perthnasau da rhwng y rheiny sy’n rhannu nodwedd a ddiogelir a’r rheiny nad ydynt, er enghraifft drwy fynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth

 

Nodweddion a ddiogelir

Rydym wedi ymrwymo i helpu i sicrhau bod modd i unigolion, waeth pa fath o nodwedd a ddiogelir sydd ganddynt, gymryd rhan gyflawn yn ein cymuned fel dinasyddion cyfartal. Y naw nodwedd a ddiogelir yw:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd a chred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi sut y byddwn yn mynd ati i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb a sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn ymateb i anghenion amrywiol yr unigolion sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r fwrdeistref sirol.

 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024

 

Crynodeg Gweithredol

 

Cynllun Gweithredu

 

Data agored

Gwybodaeth cydraddoldeb gweithlu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael ei gyflwyno mewn fformat data agored.

 

 

 

 

Adroddiadau Blynyddol

 

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae’r Cyngor yn cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i ddeall a fydd newidiadau i bolisïau, gwasanaethau a swyddogaethau, neu a fydd cyflwyno rhai newydd, yn cael effaith ar wahanol sectorau’r gymdeithas mewn gwahanol ffyrdd. Gall asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb helpu i nodi gwelliannau i wasanaethau, gan ein galluogi i wneud gwell penderfyniadau a nodi sut y gall pobl fanteisio’n llawn ar ein gwasanaethau.

 

Sgrinio cyntaf

Mae sgrinio cyntaf yn ein helpu i wybod a yw cynnig penodol yn debygol o gael effaith andwyol ar unrhyw grŵp o bobl ac a oes angen i ni gymryd camau gweithredu lliniarol neu weithredu asesiad llawn o'r effaith ar gydraddoldeb.

 

Asesiadau Llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae asesiad llawn o’r effaith ar gydraddoldeb yn broses gyfundrefnol o gasglu a dadansoddi tystiolaeth sy'n sicrhau ein bod yn bodloni ein dyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb yn well.

Rydym yn cyhoeddi ein hasesiadau o effaith ar gydraddoldeb yn adran cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a phwyllgorau ar y wefan.

Y Gymraeg

Gweler ein tudalen ar y Gymraeg i gael mwy o wybodaeth am sut yr ydym yn hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru, yn ogystal ag yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (2011).

Cyswllt

Cydraddoldebau
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y