Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr
Trawsysgrif fideo Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr
Weithiau, mae angen ychydig o gymorth a chefnogaeth ychwanegol ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gael bywydau hapus, iach a llwyddiannus.
Mae'r Tîm Cymorth Cynnar yn wasanaeth gwirfoddol sy'n ceisio helpu i ddarparu'r cymorth cywir i chi a'ch teulu i helpu i greu newid positif. Rydym yn gosod y teulu’n ganolog yn y gefnogaeth o'r dechrau i'r diwedd gydag unrhyw ymwneud â'r gwasanaeth.
Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar y canlynol:
- siarad am gryfderau yn ogystal â meysydd y gellid eu gwella
- cael y cymorth cywir i chi ar yr adeg iawn
- dod â thîm o bobl briodol at ei gilydd a all helpu eich teulu
- gwrando arnoch a rhoi dewisiadau i chi.
Sut mae Cymorth Cynnar yn gweithio
Ar ôl derbyn atgyfeiriad, bydd gweithiwr Cymorth Cynnar yn trefnu i gyfarfod â chi i gwblhau asesiad teulu cyfan.
Byddwn yn edrych ar newidiadau yr hoffech eu gwneud i wella bywyd teuluol ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Unwaith y bydd yr asesiad wedi'i gwblhau gyda'ch gweithiwr cymorth, byddwch yn cytuno ar gynllun gweithredu. Mae hwn yn nodi sut byddwch yn cyflawni newidiadau positif a phwy fydd yn gyfrifol am bob cam gweithredu.
Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â sefydliadau eraill sydd wedi cefnogi eich teulu yn y gorffennol neu a allai helpu yn y dyfodol.
Gall y gweithiwr Cymorth Cynnar gyfeirio at asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill os oes angen cymorth ychwanegol i sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir.
Adolygir y gefnogaeth gyda Chymorth Cynnar yn rheolaidd a gall bara am hyd at 6 mis.
Mathau o gefnogaeth
Dyma rai meysydd y gallwn eich cefnogi gyda hwy:
- magu plant/cyfathrebu â'ch plentyn
- rheoli ymddygiad heriol
- cymorth llesiant a chadernid i blant a phobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr
- materion yn ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol
- cam-drin domestig
- cefnogaeth ariannol
- tai
- cyflogaeth
Cael cefnogaeth
Ffurflen Cais am Help (.docx 396KB)
Anfonwch ffurflen Cais am Help wedi'i llenwi i'r gwasanaeth Cymorth Cynnar: