Cynnal Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cymorth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ledled y fwrdeistref sirol.
Mae modd ymestyn am y cymorth dros y ffôn, Skype neu fel rhan o fforwm ar-lein.
Cymerwch ran mewn gweithgareddau a gemau wythnosol i helpu i fynd i’r afael â diflastod ac unigedd.
Stondinau Dewis a Dethol Urddas y Mislif
Yn galw ar bawb 11 i 25 oed, mae’n amser i chi fynd amdani a bachu nwyddau gwych oherwydd mae popeth ar ein stondinau Dewis a Dethol Urddas y Mislif ni ar gael AM DDIM!
Mae'r stondinau'n llawn amrywiaeth o gynhyrchion mislif untro ac ailddefnyddiadwy ar gyfer y gymuned.
Felly peidiwch ag oedi am eiliad yn fwy, ewch i'ch Canolfan Hamdden Halo neu Ganolfan Ieuenctid agosaf ac fe allwn ni hwyluso pethau i chi gyda’ch mislif gyda'n gilydd!