Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hybiau Cymorth Cynnar

Mae tri hwb Cymorth Cynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Maent wedi’u lleoli yn ardaloedd canlynol y sir:

  • Coleg Cymunedol Y Dderwen (CCYD) - Hwb y Gogledd
  • Ysgol Brynteg – Hwb y Dwyrain
  • Canolfan Bywyd y Pîl – Hwb y Gorllewin

Mae’r Hybiau Cymorth Cynnar yn wasanaeth ymyrraeth gynnar sy’n cynnig cymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o asiantaethau partneriaeth a chymunedol lleol, gall y tîm deilwra cymorth i’r amrywiaeth o anghenion a wynebir yn ddyddiol gan deuluoedd, a chynnig cymorth tymor byr.

Mae’r tîm yn ceisio cyfarfod teuluoedd mewn lleoliad sy’n gyfforddus iddynt ac sy’n ffafriol ganddynt, megis y cartref teuluol, yr Hwb lleol neu’r ysgol.

Ymhlith yr ystod eang o wasanaethau sy’n cael eu cynnig gan yr hybiau Cymorth Cynnar mae:

  • Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd
  • Gweithiwyr Cymorth Dechrau’n Deg
  • Gweithwyr Lles
  • Gweithwyr Arweiniol
  • Swyddogion Lles Addysg
  • Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd

Gall y Gweithwyr Cefnogi hyn weithio ar y cyd â rhieni, plant a phobl ifanc i ganfod y datrysiadau mwyaf addas ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd mewn sawl ffordd yn cynnwys:

  • Darpariaeth uniongyrchol o amrywiaeth o raglenni teuluol sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • Darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol
  • Gweithredu fel gweithiwr allweddol i deulu
  • Cynghori ar ystod eang o wasanaethau sy’n seiliedig ar y gymuned
  • Cwblhau Asesiadau sy’n Seiliedig ar y Teulu a chynlluniau cymorth

I gael mynediad at y cymorth o fewn yr Hybiau Cymorth Cynnar, cysylltwch â’r Tîm Sgrinio Cymorth Cynnar:

Cyswllt

Ffôn: 01656 815420

Chwilio A i Y