Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Trawsgrifiad fideo Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.

Gyda'n gilydd byddwn yn cefnogi plant a phobl ifanc i atal ymddygiad troseddol drwy eu galluogi i ymateb yn gadarnhaol i'w cymunedau a chyrraedd eu llawn botensial.

Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phobl ifanc 10 i 17 oed sydd naill ai mewn perygl o droseddu neu sydd wedi troseddu.

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr (BYJS) yn dîm amlasiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, iechyd ac asiantaethau gwirfoddol.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn y cyngor.

Adborth  

Byddem yn hoffi clywed barn y bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau Cefnogi Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar. Llenwch ein harolwg byr i’n helpu i wella sut rydym yn cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd.  

Rhoi adborth ar ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (Rhieni a gofalwyr) 

Rhoi adborth ar ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (Pobl ifanc) 

Cysylltu

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 815420

Chwilio A i Y