Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth cwnsela i bobl ifanc

Gall plant a phobl ifanc sydd rhwng 10 a 25 oed gael gwasanaeth cwnsela ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Prif nod y cwnsela yw datblygu cadernid emosiynol.

Mae cwnsela’n rhoi cyfle i siarad am bethau sy’n eich pryderu chi ar lefel un i un gyda chwnselydd cymwys. Mae’r cwnselwyr wedi’u hyfforddi i wrando ar bobl heb farnu ac i helpu pobl i roi trefn ar eu teimladau a’u meddyliau.

 

Cyfrinachedd

Un nodwedd allweddol yw bod yr wybodaeth sy’n cael ei thrafod yn y sesiwn cwnsela’n cael ei thrin yn gyfrinachol er mwyn i chi deimlo’n hyderus i drafod eich pryderon yn agored ac yn rhydd. Mae hyn yn golygu mai dim ond pan fyddwch chi’n cytuno i hynny y caiff yr wybodaeth ei rhannu, neu os bydd cleient yn ymddangos fel pe bai mewn perygl mawr o niweidio ei hun neu eraill. O ran yr olaf, byddai angen cefnogaeth gan asiantaethau eraill i’w cadw’n ddiogel.

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 815420

Chwilio A i Y