Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth Ariannol

Gyda’r cynnydd mewn costau byw, rydym yn deall bod pawb efallai angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol gyda chostau yn ystod y cyfnod hwn.  Rydym wedi creu rhestr o gymorth ariannol a gostyngiadau y gallech fod yn gymwys i’w cael.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein i weld pa fudd-daliadau allech fod yn gymwys i’w cael.  Peidiwch â chymryd yn ganiataol nad ydych yn gymwys i gael unrhyw beth.  Byddwch angen gwybodaeth am eich cynilon, incwm, pensiynau, taliadau gofal plant ac unrhyw fudd-daliadau rydych eisoes yn eu cael (ar gyfer chi a’ch partner).

Y Dreth Gyngor

Gwybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth a gostyngiadau sydd ar gael ar gyfer talu’r dreth gyngor.

Mae’r budd-dal yma o help i bobl ar incwm isel dalu eu treth gyngor. Rydych chi’n gymwys os ydych chi’n hawlio lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm, neu os yw eich incwm yn is na lefel benodol.

Hefyd, rydych chi’n gymwys os ydych chi’n cael credyd cynhwysol.

Gallwch wirio eich cymhwysedd ar y ffurflen ar Fy Nghyfrif ‘Gwneud Cais am Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth Gyngor’.

Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

 

Os ydych yn gymwys i gael gostyngiad a’ch bod heb wneud cais, gallwch wneud hynny ar-lein.

  • Os mai dim ond un oedolyn sy'n byw mewn eiddo, mae yna ostyngiad o 25% ar gael
  • Gostyngiad ar gyfer nam meddyliol difrifol
  • Gallai gostyngiad o 25% neu 50% fod ar gael ar gyfer:
    • myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, rhai sy’n gwneud hyfforddiant ieuenctid a phrentisiaid
    • cleifion mewnol mewn ysbyty
    • pobl sy'n cael gofal mewn cartrefi gofal
    • pobl â nam meddyliol difrifol
    • pobl sy'n aros mewn rhai hosteli neu llochesi nos
    • pobl ifanc 18 a 19 oed sydd yn yr ysgol neu sydd newydd adael yr ysgol
    • gweithwyr gofal ar gyflog isel sydd fel arfer yn cael eu cyflogi gan elusen
    • pobl yn y carchar
    • aelodau o gymunedau crefyddol - mynachod neu leianod
    • pobl sy'n gofalu am rywun ag anabledd nad yw'n briod, yn bartner, neu’n fab neu ferch o dan 18 oed.

Gostyngiadau treth gyngor

Os yw eich eiddo chi wedi cael ei addasu oherwydd anabledd rhywun sy’n byw ynddo, efallai eich bod yn gymwys i gael gostyngiad yn eich treth gyngor.

I gymhwyso, mae’n rhaid i’r eiddo fod ag o leiaf un o’r canlynol:

  • cegin neu ystafell ymolchi ychwanegol a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl
  • digon o ofod llawr i ddefnyddio cadair olwyn
  • ystafell sy’n cael ei chadw i ddiwallu anghenion person anabl, fel ystafell a ddefnyddir ar gyfer dialysis

Gostyngiad Band Anabl

Cymorth Addysg

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y grantiau sydd ar gael ar gyfer disgyblion cymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol, gallwch hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn oedran ysgol.

Prydau ysgol am ddim

Mae grant Mynediad PDG Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo teuluoedd sydd ar incwm isel i brynu’r canlynol:

Grant Mynediad Datblygu Disgyblion

Mae lwfans tuag at gost dillad ysgol nodedig ar gael i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion uwchradd. Mae lwfansau'n daladwy ar ddechrau pob blwyddyn yn ystod pum mlynedd y plentyn yn yr ysgol uwchradd.

Grant dillad ysgol nodedig

Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn daladwy i ddisgyblion a myfyrwyr sydd mewn addysg llawn amser ar ôl 16 oed. Mae’n seiliedig ar incwm y cartref.

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Cefnogaeth yn y Cartref

Gwybodaeth am gefnogaeth sydd ar gael i gynorthwyo gyda chostau tai ac ynni.

Os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu’n methu gweithio, efallai y gallwch gael cymorth gyda’ch costau byw. Gwirio i weld a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Credyd Cynhwysol

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad arian parod untro o £200 i ddarparu cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd dros y gaeaf. Mae'r taliad hwn yn ychwanegol at yr ad-daliad Mesur Ynni a gynigir gan Lywodraeth y DU a'r Taliad Tanwydd Gaeaf sy’n cael ei dalu fel arfer i bensiynwyr.

Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf

Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth i dalu eich rhent i landlord cymdeithasol.

Budd-dal Tai

Mae hwn yn helpu i dalu rhent i landlord preifat.

Lwfans Tai Lleol

Nod y Cynllun Cymorth Dewisol yw helpu'r holl aelwydydd cymwys y nodwyd bod angen cymorth ariannol arnynt fwyaf yn ystod yr argyfwng costau byw.

 

Cynllun Cymorth Dewisol ar Gostau Byw

Dolenni Defnyddiol

  • Mae Step Changeyn cynnig cyngor arbenigol ar ddyled ac yn cynnig datrysiadau ymarferol i ddelio â dyled, yn rhad ac am ddim.
  • Mae’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol, Ask Ma, yn wasanaeth diduedd, rhad ac am ddim sy'n cynnig cyngor a chymorth fel y gall pobl wneud y gorau o'u harian.
  • Mae Undeb Credyd Pen-y-bont ar Ogwr, Bridgend Lifesavers, yn cynnig cynilion, benthyciadau a chynhyrchion ariannol eraill i bobl sydd fel arfer wedi’u heithrio gan fanciau neu gymdeithasau adeiladu’r stryd fawr.
  • Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor am ddim ac yn helpu i ddatrys problemau gyda dyled, materion defnyddwyr, budd-daliadau, tai, materion cyfreithiol, cyflogaeth, a mewnfudo.
  • Mae Age Concern Morgannwg Ltdyn elusen sy'n gwella ansawdd bywyd pobl hŷn ym Mwrdeistrefi Sirol Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Chwilio A i Y