Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gostyngiad Band Anabl

Os yw eich eiddo chi wedi cael ei addasu oherwydd anabledd rhywun sy’n byw ynddo, efallai eich bod yn gymwys i gael gostyngiad yn eich treth gyngor.

I gymhwyso, mae’n rhaid i’r eiddo fod ag o leiaf un o’r canlynol:

  • cegin neu ystafell ymolchi ychwanegol a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl
  • digon o ofod llawr i ddefnyddio cadair olwyn
  • ystafell sy’n cael ei chadw i ddiwallu anghenion person anabl, fel ystafell a ddefnyddir ar gyfer dialysis

 

Maint y gostyngiad

Gyda’r gostyngiad, bydd treth gyngor mewn band is na’ch band swyddogol yn cael ei chodi arnoch chi. Mae’r bobl yn y band isaf yn cael gostyngiad o swm sy’n cyfateb i un nawfed o dreth gyngor eiddo band D.

Chwilio A i Y