Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor ar y credyd cynhwysol

Y camau i’w dilyn i hawlio’r credyd cynhwysol

  1. Hawlio'r credyd cynhwysol ar-lein.
  2. Mynd i’r cyfarfod gyda’ch hyfforddwr gwaith yn y ganolfan byd gwaith i lenwi eich hawliad, ac i ddarparu unrhyw dystiolaeth.

Am fwy o wybodaeth am y broses yma, darllenwch y Canllaw Croeso i'r Credyd Cynhwysol.

Pwy sy’n dal yn gymwys i gael y budd-dal tai

Gall y rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio hawlio’r credyd cynhwysol i gael help gyda chostau tai, os ydynt yn gymwys. Er hynny, ni fydd y credyd cynhwysol yn talu am gostau tai rhywun os:

  • yw’n unigolyn mewn tŷ â chymorth neu dŷ dros dro
  • yw’n unigolyn gyda thri o blant neu fwy
  • yw’n bensiynwr, heb chwaith fod yn byw gydag oedolyn o oedran gweithio

Os ydych chi’n perthyn i un o’r grwpiau hyn, dylech barhau i hawlio'r budd-dal tai drwy Fy Nghyfrif.

Os ydych chi’n bensiynwr sy’n byw gyda rhywun o oedran gweithio a’i fod eisiau hawlio’r credyd cynhwysol, gallech gael eich cynnwys yn ei hawliad ef. Byddai ei daliad credyd cynhwysol yn berthnasol i’r holl gartref, a fyddai’n eich cynnwys chi. Neu, gallwch barhau i wneud cais am y budd-dal tai ar wahân.

Gall rhywun mewn tŷ â chymorth neu dŷ dros dro hawlio’r credyd cynhwysol. Er hynny, ni fydd yr hawliad hwnnw’n cynnwys costau tai, ac felly dylent hefyd hawlio'r budd-dal tai ar wahân drwy Fy Nghyfrif.

Pobl ifanc 18 i 21 oed

Nid yw’r credyd cynhwysol yn cynnwys costau tai ar gyfer pobl ifanc 18 i 21 oed. Er hynny, mae eithriadau i’r rheol yma’n cynnwys pobl:

  • sy’n gyfrifol am blentyn
  • sy’n cael budd-dal anabledd
  • sy’n gadael gofal
  • sy’n byw mewn llety dros dro

Gallwch gael mwy o fanylion am y credyd cynhwysol ar wefan y llywodraeth.

Parhau i hawlio gostyngiad y dreth gyngor

Os ydych chi’n hawlio’r credyd cynhwysol, gallwch barhau i hawlio gostyngiad y dreth gyngor. Nid drwy’r credyd cynhwysol mae gwneud hyn, ond yn hytrach, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy Fy Nghyfrif gyda 'ffurflen gostyngiad y budd-dal tai a'r dreth gyngor'. Er hynny, bydd angen i chi barhau i hawlio'r budd-dal tai ar wahân drwy system credyd cynhwysol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gall pobl nad ydynt yn hawlio’r credyd cynhwysol hefyd hawlio gostyngiad y dreth gyngor drwy Fy Nghyfrif, os ydynt yn gymwys. Fel arall, gallwch wneud cais am ostyngiadau’r dreth gyngor drwy gysylltu â ni.

Cyswllt

Tîm Gostyngiad y Budd-dal Tai a’r Dreth Gyngor

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643396
Cyfeiriad: Adran Budd-daliadau, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Cwmpas y credyd cynhwysol

Mae’r credyd cynhwysol yn un taliad ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith, neu ar incwm isel. Mae’n cymryd lle’r canlynol:

  • lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm
  • lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm
  • cymhorthdal incwm
  • credyd treth gwaith
  • credyd treth plant
  • budd-dal tai

Y gwahaniaethau rhwng y credyd cynhwysol a budd-daliadau eraill

Mae’r credyd cynhwysol yn cael ei dalu mewn ffordd wahanol i’r budd-daliadau eraill. Bydd rhywun a fyddai wedi cael sawl taliad ar wahân yn cael un taliad ar gyfer ei gartref. Caiff ei dalu bob mis mewn ôl-ddyledion i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, swyddfa’r post neu undeb credyd.

Caiff yr elfen o’ch taliad credyd cynhwysol ar gyfer rhent ei galw’n elfen tai. Chi sy’n gyfrifol am dalu’r elfen tai i’ch landlord.

Symud i’r credyd cynhwysol oddi wrth y budd-daliadau eraill
Os ydych chi eisoes yn hawlio un neu fwy o’r budd-daliadau sy’n dod i ben yn raddol, dylech barhau i hawlio fel arfer. Er hynny, os byddwch chi’n rhoi gwybod am newid perthnasol i’ch amgylchiadau o ran hen fudd-dal, fe allwch chi newid i gael y credyd cynhwysol. Dyma rai enghreifftiau o newidiadau a all arwain at symud:

  • bod yn unig riant sy’n cael cymhorthdal incwm, ac mae eich plentyn ieuengaf yn troi’n bump oed neu’n gadael y cartref yn barhaol
  • dod yn gyfrifol am blentyn am y tro cyntaf
  • rhoi’r gorau i weithio yn sgil salwch
  • symud cyfeiriad i ardal gwasanaeth llawn, y mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn un ohonynt
  • hawlio credydau treth, a’ch bod wedi gwahanu oddi wrth eich partner

Gwybodaeth i landlordiaid

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am denantiaid yn hawlio'r credyd cynhwysol yma.

Help i hawlio'r credyd cynhwysol

Gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd am ddim ar gyfrifiaduron:

Gall y mannau hyn eich helpu chi hefyd i chwilio am swyddi ac i ysgrifennu CV.
Gall ein Tîm Budd-daliadau Tai eich helpu chi gyda chefnogaeth ddigidol hefyd. Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.

Cysylltu:

Tîm Gostyngiad y Budd-dal Tai a’r Dreth Gyngor
E-bost: benefits@bridgend.gov.uk
Rhif ffôn: 01656 643396
Adran Budd-daliadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Stryd Angel
CF31 4WB

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y gallwch chi hawlio dros y ffôn neu drwy ymweliad â’ch cartref. Cysylltwch â’r llinell gymorth credyd cynhwysol ar 0345 60007233 i esbonio eich amgylchiadau a gofyn a yw hyn yn bosibl.

Os ydych chi’n agored i niwed a bod angen cyngor arnoch chi i reoli eich arian bob mis a thalu biliau ar amser, byddwch yn cael cynnig cymorth gyda’ch cyllideb bersonol. Gallwn hefyd eich helpu chi i agor cyfrif banc i gael taliadau’r credyd cynhwysol. Gallwch gael cefnogaeth unrhyw adeg ar ôl i chi wneud eich cais am y credyd cynhwysol. Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.

Cyswllt:

Tîm Gostyngiad y Budd-dal Tai a’r Dreth Gyngor
E-bost: benefits@bridgend.gov.uk
Rhif ffôn: 01656 643396
Adran Budd-daliadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Stryd Angel
CF31 4WB

Weithiau, gall hawlwyr sydd angen cymorth ychwanegol ddefnyddio trefniadau talu gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys talu elfen tai i landlordiaid ar ran yr hawlwyr.

Gall y cyngor wneud taliadau tai dewisol tuag at gostau tai pobl sy’n cael y credyd cynhwysol ac y mae arnynt angen mwy o help ariannol ar gyfer rhent. Mae’r budd-dal yma’n dibynnu ar brawf modd. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu

Tîm Gostyngiad y Budd-dal Tai a’r Dreth Gyngor
E-bost: benefits@bridgend.gov.uk
Rhif ffôn: 01656 643396
Adran Budd-daliadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Stryd Angel
CF31 4WB

Dim ond canllawiau yw’r nodiadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am y Credyd Cynhwysol ar gael ar-lein.

Prydau ysgol am ddim

Efallai y bydd gennych hawl hefyd i brydau ysgol am ddim os byddwch yn hawlio’r credyd cynhwysol. Cysylltwch â ni ar 01656 643396 am fwy o wybodaeth.

Newidiadau i fudd-daliadau ers mis Mehefin 2018

Ers 6 Mehefin 2018, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gymwys i gael help gyda chostau tai yn cael credyd cynhwysol. Ni fydd modd i bobl o oedran gweithio bellach wneud hawliadau newydd am fudd-dal tai, mae’n rhaid iddynt hawlio am gostau tai drwy’r credyd cynhwysol yn lle hynny.

 

Chwilio A i Y