Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gostyngiad i’ch treth gyngor

Mae’r budd-dal yma o help i bobl ar incwm isel dalu eu treth gyngor. Rydych chi’n gymwys os ydych chi’n hawlio lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm, neu os yw eich incwm yn is na lefel benodol. Hefyd, rydych chi’n gymwys os ydych chi’n cael credyd cynhwysol.

Gallwch wirio eich cymhwysedd ar y ffurflen ar Fy Nghyfrif ‘Gwneud Cais am Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth Gyngor’.

Sylwer nad oes gennych hawl i ddal taliadau treth gyngor yn ôl tra mae eich hawliad yn cael ei asesu.

Os bydd gostyngiad treth gyngor yn cael ei ddyfarnu i chi, bydd y dadansoddiad yn esbonio sut cafodd ei gyfrif a’ch dyletswydd i roi gwybod i’r Tîm Treth Gyngor am unrhyw newidiadau.

Chwilio A i Y