Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grant dillad ysgol nodedig

Mae lwfans tuag at gost dillad ysgol nodedig ar gael i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion uwchradd. Mae lwfansau'n daladwy ar ddechrau pob blwyddyn yn ystod pum mlynedd y plentyn yn yr ysgol uwchradd.

Ar hyn o bryd, caiff dillad ysgol nodedig eu darparu ar gyfer plant sy’n cael prydau ysgol am ddim. Pennir hyn ar y dyddiad cymhwyso, 13 wythnos cyn dechrau’r tymor ym mis Medi.

Bydd y grant yn cael ei ddyfarnu’n awtomatig os yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, oni bai bod ei gymhwystra wedi’i warchod yn drosiannol. Cysylltwch â’r ysgol unigol i gael manylion ynghylch sut a phryd caiff y grant ei gyhoeddi.

Chwilio A i Y