Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y budd-daliadau y gallech chi eu hawlio

  1. Budd-daliadau tai. Mae’r rhain yn helpu tuag at dalu rhent i landlord cymdeithasol.
  2. Lwfans tai lleol. Mae hwn yn helpu tuag at dalu rhent i landlord preifat.
  3. Gostyngiad treth gyngor. Help ydi hwn tuag at dalu eich bil treth gyngor.
  4. Prydau ysgol am ddim/Grant Datblygu Disgyblion (Grant GDD/Mynediad). Mae’r cynllun hwn yn galluogi i chi wneud cais am brydau ysgol am ddim a grant gwisg ysgol ar gyfer plant sy’n mynychu ysgolion cyfun.

Hefyd efallai y gallwch chi hawlio budd-daliadau eraill gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, fel credyd cynhwysol.

Newidiadau diweddar i fudd-daliadau

Darllenwch am:

Cyngor am arian gan wasanaethau allanol

Step Change sy’n cynnig cyngor am ddim ac arbenigol am ddyledion, ac atebion ymarferol i ddyledion.

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Ask Ma sy’n wasanaeth am ddim a diduedd sy’n cynnig cyngor a help fel bod pobl yn gallu gwneud y defnydd gorau o’u harian. Mae Lleolydd Cyngor Dyledion Ask Ma sydd wedi’i lansio o’r newydd yn helpu pobl i reoli eu dyledion ac mae’n sicrhau bod cyngor am ddim a diduedd ar gael iddynt am ddyledion.

Undeb Credyd Pen-y-bont ar Ogwr, Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnig arbedion, benthyciadau a chynhyrchion ariannol eraill i bobl sydd fel rheol yn cael eu heithrio gan fanciau a chymdeithasau adeiladu’r stryd fawr.

Cyngor Ar Bopeth sy’n rhoi cyngor am ddim ac yn helpu i ddatrys problemau dyledion, materion defnyddwyr, budd-daliadau, tai, materion cyfreithiol, cyflogaeth a mewnfudo.

Mae Age Concern Morgannwg Cyf. yn elusen sy’n gwella ansawdd bywyd i bobl hŷn ym Mwrdeistrefi Sirol Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr.

Chwilio A i Y