Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwybodaeth ar y Dreth Gyngor

Mae awdurdodau lleol yn pennu’r dreth gyngor i fodloni eu gofynion cyllidebol. Ceir elfen eiddo ac elfen bersonol.

Mae’r gydran eiddo'n seiliedig ar y band prisio y rhoddir iddi gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae’r elfen bersonol yn ystyried nifer y bobl sy’n byw yn yr eiddo ac mae’n seiliedig ar y ffaith bod o leiaf ddau berson yn byw yn yr eiddo.

Mae tua 18 y cant o incwm cyfan y Cyngor yn cael ei gasglu trwy’r dreth gyngor ac mae'n cael ei ddefnyddio er mwyn darparu gwasanaethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ceir y 82 y cant sy’n weddill gan grantiau llywodraeth.

Mae’r Cyngor yn casglu treth gyngor ar gyfer pob eiddo, sy'n cynnwys tair elfen: tâl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y tâl Cyngor Cymuned a thâl Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.    

Arbed amser a gwneud pethau ar-lein

Ein gwasanaeth Fy Nghyfrif yw’r ffordd gyflymaf i dalu treth gyngor. Dyma hefyd y ffordd hawsaf i reoli eich cyfrif treth gyngor gydag un lle ar gyfer debyd uniongyrchol, ffurflenni digidol ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau, neu ddiweddaru manylion. Gallwch gael eich biliau’n gyflymach ar-lein hefyd. Felly neidiwch y ciwiau ffôn a sortio eich treth mewn munudau.

Chwilio A i Y