Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut i dalu eich treth gyngor

Oni bai eich bod yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, mae eich rhandaliadau’n daladwy ar neu cyn y 15fed o bob mis. Mae eich taliad cyntaf yn cael ei wneud ym mis Ebrill fel rheol, ac wedyn bydd naw rhandaliad pellach. Os byddai'n well gennych dalu dros 12 mis o fis Ebrill i fis Mawrth ffoniwch 01656 643391 neu e-bostio ctaxen@bridgend.gov.uk i ofyn am hyn. Fel dewis arall, gallwch ddewis talu dros 10 mis neu 12 mis pan fyddwch yn sefydlu debyd uniongyrchol yn Fy Nghyfrif.

Os nad oes gennych chi gyfeirnod treth gyngor

Os ydych chi’n newydd i’r ardal, gallwch gofrestru ar gyfer treth gyngor drwy Fy Nghyfrif. Ar ôl cofrestru, byddwn yn sefydlu cyfrif treth gyngor i chi dros nos, a fydd yn creu rhif cyfrif y gallwch ei ddefnyddio i dalu. Wedyn, i dalu gyda cherdyn, mewngofnodwch ar y diwrnod ar ôl cofrestru. Fel dewis arall, gallwch ddewis gwneud taliadau debyd uniongyrchol pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer treth gyngor drwy Fy Nghyfrif.

Dulliau talu

Mae eich bil yn dod gyda mandad neu gallwch greu debyd uniongyrchol yn Fy Nghyfrif. Dyma fanteision defnyddio debyd uniongyrchol:

  • dyma’r ffordd fwyaf cost effeithiol o dalu
  • mae dewis o bedwar dyddiad talu
  • does dim ciwiau

I dalu ar-lein, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Cofiwch fod â’ch rhif cyfrif ardrethi busnes oddi ar eich bil wrth law, a hefyd eich cerdyn debyd neu gredyd.

 

Dros y ffôn, gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd. I wneud hynny:

  • rhaid i chi fod â’ch rhif cyfeirio treth gyngor wyth digid wrth law
  • rhaid i chi ffonio’r system dalu dros y ffôn awtomatig 24 awr ar 01656 642088

I dalu, ewch â’ch bil, cerdyn talu, neu unrhyw lythyr gennym ni sydd â chod bar arno, i unrhyw swyddfa’r post neu leoliad Parth Talu. Os oes arnoch angen hysbysiad talu arall er mwyn gallu talu, archebwch un o ctaxen@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y