Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Anheddau wedi’u heithrio o’r dreth gyngor


Mae rhai anheddau wedi’u heithrio o’r dreth gyngor. Os ydym wedi categoreiddio eich annedd chi fel annedd wedi’i eithrio, bydd cod ar eich bil yn nodi’r rheswm a’r cyfnod eithrio. Dyma’r dosbarthiadau eithrio:

  • anheddau heb ddeiliaid sydd angen neu’n cael eu haddasu’n saernïol neu lle cwblhawyd gwaith o’r fath lai na chwe mis yn ôl, sy’n cael eithriad am uchafswm o flwyddyn
  • anheddau heb ddeiliaid sy’n eiddo i elusen, sy’n cael eithriad am uchafswm o chwe mis
  • anheddau wedi’u gadael yn wag a heb ddodrefn, sy’n cael eithriad am uchafswm o chwe mis
  • anheddau wedi’u gadael yn wag gan berson sydd wedi mynd i garchar
  • anheddau wedi’u gadael yn wag gan berson sydd wedi symud i dderbyn gofal personol mewn ysbyty neu gartref
  • anheddau wedi’u gadael yn wag gan berson sydd wedi marw, gyda llai na chwe mis wedi mynd heibio ers dyfarnu probad neu lythyrau gweinyddu
  • anheddau gwag lle mae’r gyfraith yn gwahardd deiliadaeth
  • anheddau gwag sy’n aros deiliadaeth gan weinidog crefyddol
  • anheddau wedi’u gadael yn wag gan rywun sydd wedi gadael i gael gofal personol ond heb eu cynnwys o dan yr eithriad ar gyfer pobl sy’n derbyn gofal mewn ysbytai neu gartrefi
  • anheddau wedi’u gadael yn wag gan berson sydd wedi symud i rywle arall i ddarparu gofal i rywun arall
  • anheddau wedi’u gadael yn wag gan fyfyrwyr
  • anheddau heb ddeiliaid ym meddiant benthyciwr morgais
  • neuaddau preswyl
  • anheddau gyda’r holl ddeiliaid yn fyfyrwyr neu fyfyriwr a phriod nad yw’n fyfyriwr nac yn ddinesydd Prydeinig ac sy’n cael ei atal rhag gweithio neu hawlio budd-daliadau
  • barics y fyddin a’r ardaloedd i gyplau priod yno
  • anheddau gyda lluoedd yn ymweld yn ddeiliaid ynddynt
  • anheddau heb ddeiliaid sy’n gyfrifoldeb ymddiriedolwr methdalwr
  • safle neu lanfa heb garafán neu gwch
  • anheddau gyda’r holl ddeiliaid yn bobl iau na 18 oed
  • anheddau heb ddeiliaid sy’n rhan o annedd arall sy’n anodd eu gosod ar wahân, fel fflat mamgu/tadcu
  • anheddau gyda’r holl ddeiliaid â nam difrifol ar y meddwl
  • anheddau penodol lle mae’r deiliaid yn ddiplomyddion
  • atodiadau gyda deiliaid

Rhaid i chi ddweud wrthym ni am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau sy’n effeithio efallai ar eich hawl i eithriad. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gymwys am eithriad, llenwch y ffurflen eithrio o dreth gyngor berthnasol ar Fy Nghyfrif.

Chwilio A i Y