Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu trigolion cyflogedig a di-waith Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar gyflogadwyedd. Mae ein tîm yn cynnig ystod o wasanaethau o fentora, i hyfforddiant, gwirfoddoli a dod o hyd i gyflogaeth.
P’un a ydych yn ystyried cymryd eich camau cyntaf tuag at swydd neu’n chwilio am rôl newydd, gall Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr eich helpu chi. Mae gennym agwedd gyfannol at gefnogi, drwy feithrin hyder a datblygu sgiliau trwy gymorth a hyfforddiant un i un.
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu:
- hyfforddiant am ddim gan gynnwys sgiliau bywyd, cymwysterau galwedigaethol a heb eu hachredu
- cymorth cyflogadwyedd gan gynnwys chwilio am swydd a thechnegau cyfweld
- gweithgareddau lles a chefnogaeth
- datblygu CV, a hynny ar gyfer lleoliadau gwirfoddoli hefyd
- sgiliau sylfaenol gan gynnwys llythrennedd a rhifedd
Efallai y byddwn hefyd yn gallu darparu cymorth ar gyfer costau cysylltiedig â gwaith, fel:
- trafnidiaeth i’r gwaith tan y byddwch yn cael eich talu
- dillad, er enghraifft esgidiau gwaith
Manylion cyswllt
Facebook: cyflogadwyedd
Pen-y-bont ar Ogwr Greadigol 2024 – Y tu ôl i’r llenni
18 Ebrill 2024, 12pm – 7pm
Y Neuadd Fowlio, Canolfan Fywyd Helo, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH
Dewch i archwilio cyfleoedd, i brofi’r diwydiant, i fynegi eich diddordebau ac i adeiladu eich rhwydwaith creadigol yn nigwyddiad Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr sy’n anelu at eich cysylltu â’r diwydiannau creadigol.
Rydym yn cael ein hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, y Gronfa Ffyniant Bro, a Llywodraeth Cymru, sy’n ein galluogi i barhau i ddarparu ein gwasanaethau gwerthfawr i chi ac i eraill.