Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lluosi

Rhaglen sgiliau rhifedd a ariennir gan Lywodraeth y DU yw Lluosi, ac mae ar gael yn hygyrch ac am ddim i oedolion sydd eisiau gwella a datblygu mewn bywyd a gwaith drwy ddatblygu sgiliau rhifedd a chyflawni cymwysterau rhifedd a mathemateg.

Ystod o gefnogaeth

Bydd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu hyfforddiant un i un, a sesiynau a chyrsiau grŵp bach fydd i gyd ar gael ar adegau a lleoliadau addas ledled cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr i'r rhai sydd am fagu hyder gyda sgiliau rhifedd bob dydd, neu weithio tuag at gymhwyso cymwysterau Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru o Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 2.

Bydd sgiliau llythrennedd ariannol ar gael i bobl gyflogedig i helpu'r rhai sydd wedi'u tangyflogi, yn hunangyflogedig, y rhai ag anableddau neu gyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth amser llawn, e.e. cynyddu oriau gwaith neu gyflogau a enillir, i ddod o hyd i gyflogaeth barhaol neu symud i rôl sy'n gweddu'n well i'w sgiliau.   

Trwy Goleg Penybont, bydd ystod o gyrsiau rhifedd galwedigaethol, sy'n gysylltiedig â'r gweithle, ar gael i bobl sy'n dymuno datblygu sgiliau galwedigaethol wrth ennill cymhwyster. Bydd TGAU Mathemateg ar gael i'r rhai sydd am allu gwneud cais am swyddi penodol, a’r dysgu i'w wneud ar adegau hyblyg a gyda'r opsiwn o dderbyn hyfforddiant ar-lein.

Bydd CAB Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal rhaglen Rheoli Arian i'r rhai sydd angen cyngor ar sut i reoli eu harian, ac mae'r opsiwn o gymwysterau rhifedd ar gael hefyd.

Gall pob oedolyn gymryd rhan

Mae cyrsiau penodol ar gael, ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Y rhai sydd eisiau magu hyder gyda rhifedd.
  • Pobl sydd eisiau cymryd y camau cyntaf tuag at gymhwyster.
  • Rhieni sydd eisiau cynyddu eu sgiliau rhifedd er mwyn helpu eu plant, a helpu gyda'u cynnydd eu hunain.
  • Carcharorion, y rhai a ryddhawyd yn ddiweddar o'r carchar neu ar drwydded dros dro.
  • Pobl na allant wneud cais am swyddi penodol oherwydd diffyg sgiliau rhifedd.
  • Pobl i uwchsgilio er mwyn cael mynediad i swydd/gyrfa benodol.
  • Y rhai sydd am ddysgu rhifedd a sgiliau galwedigaethol ar yr un pryd.
  • Pobl sydd eisiau defnyddio rhifedd i reoli eu harian.
  • Y rhai sydd ar fin gadael, neu sydd newydd adael y system ofal.
  • Pobl ddi-waith neu gyflogedig.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni drwy ein rhif ffôn, anfon e-bost i ymholi, neu lenwi’r ffurflen Datgan Diddordeb a’i dychwelyd i: employability@bridgend.gov.uk

Ffôn: 01656 815317

Hysbysiad Preifatrwydd

Chwilio A i Y