Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi unigolion 16 oed a hŷn sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Rydym yn cynnig cymorth i bawb. P’un a ydych wedi bod heb waith ers amser hir neu’n gweithio ac yn chwilio am eich cyfle mawr nesaf; mae ein tîm yma i helpu.

Rydym yn cynnig mentora personol un i un, i adnabod eich anghenion cymorth penodol a meithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i gyflawni eich anghenion personol.

Mae ein timau mentora pwrpasol yn cydweithio’n agos gydag asiantaethau allanol a grwpiau cymunedol amrywiol i sicrhau bod gennych yr holl gymorth sydd ei angen arnoch i greu’r llwybr gorau posib i chi.

Felly, beth hoffech chi ei wneud? Datblygu eich sgiliau? Gwirfoddoli? Dod o hyd i’r swydd newydd gyffrous yr ydych wedi bod yn dyheu amdani? Beth bynnag yw eich nod rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Ffôn: 01656 815317

Chwilio A i Y