Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hyfforddiant

Yn Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau AM DDIM a all roi hwb i’ch rhagolygon gyrfa.

O hyfforddiant ymarferol ac ardystiedig fel cardiau CSCS, Cymorth Cyntaf, a chymwysterau Cynorthwyydd Addysgu i gyfleoedd datblygiad personol, fel magu hyder, sgiliau rhifedd o’r lefel sylfaenol hyd at lefel TGAU, rydym yn cynnig y cwbl. Os ydych yn gwybod beth yr hoffech ei wneud, gallwn eich rhoi ar y trywydd cywir. Os nad ydych yn siŵr o’ch pethau, gall ein mentoriaid ymchwilio i’r hyn a fyddai orau i chi.

P'un a ydych yn chwilio am swydd neu eisoes yn gyflogedig, gallwn eich helpu i gyfnerthu eich sgiliau. Mae ein Hyfforddwyr Sgiliau yma i’ch arwain ac i ddod o hyd i'r hyfforddiant perffaith sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion unigryw. Felly, os ydych chi’n awyddus i gymryd y cam nesaf ar eich taith, cysylltwch â ni a gadewch i ni ddatgloi eich potensial gyda'n gilydd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyfleoedd hyfforddiant, cysylltwch â:

Ffôn: 01656 815317

Chwilio A i Y